Ysgol Gyfun Gymraeg 11-18 fywiog, arloesol a llwyddiannus, yn gwasanaethu Bwrdeistref Sir Caerffili yw Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Lleolir yr ysgol ar ddau safle: y naill yng Ngelli Haf, ger y Coed Duon, a’r llall, Y Gwyndy, yng nghanol tref Caerffili.
Addysgir pob un pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg, ac eithrio Saesneg. Dyfarnwyd 'Da' ym mhob Cwestiwn Allweddol yn adroddiad diweddaraf Estyn. Nodwyd hefyd bod profiadau dysgu ac amgylchedd dysgu yr ysgol yn 'Rhagorol'. Mae’r ysgol yn darparu ystod eang o gyrsiau Lefel U/UG a galwedigaethol.