Cartref /Home

Newyddion / News

Pynciau / Subjects

 

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Arddangosfa o waith disgyblion yn Oriel 'Crefft yn y Bae'

Exhibition of pupils work at The 'Craft in the Bay' Gallery

Nos Wener Chwefror 20fed 2004 cynhaliwyd agoriad swyddogol 'Llinynnau o Liw' yng Nghanolfan Grefftau Bae Caerdydd, sef arddangosfa o waith ymarferol disgyblion TGAU ar UG Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.

Erbyn saith o'r gloch roedd y lle dan ei sang a phawb, yn rhieni, disgyblion, athrawon a llywodraethwyr ynghyd â rhai o gyfeillion y celfyddydau cain, wrth eu bodd yn edmygu'r gwaith graenus.

Roedd y cyfan wedi'i gyflwyno'n lliwgar a chwaethus, ac roedd safon aruchel y gwaith yn destun balchder a rhyfeddod.

Ychwanegwyd at naws waraidd y noson gan delynorion dawnus Cwm Rhymni, a'r lluniaeth ysgafn a ddarparwyd gan y gymdeithas rhieni.

Croesawyd pawb gan ar ran Crefft yn y Bae ac agorwyd y noson yn swyddogol gan Jenny Randerson A.C. a fynegodd ei hedmygedd diffuant o waith y disgyblion a'i gwerthfawrogiad o arweiniad amlwg yr athrawon arbennig. Diolchwyd yn gynnes i bawb a chlowyd y noson gan y prifathro.

Yn sicr roedd yn noson i'w chofio. Arddangosir y gwaith tan Fawrth y cyntaf.

Croeso cynnes i bawb.

 

Samplau o waith disgyblion / Samples of pupils work