Cartref /Home

Newyddion / News

Pynciau / Subjects

 

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Ymweliad Glyn Wise

Seren ‘Big Brother’ yn ymweld â

Chwm Rhymni

Cynhaliwyd wythnos lwyddiannus iawn yng Nghwm Rhymni ar y 25ain o Dachwedd eleni - Wythnos GYTS. Wythnos o weithgareddau yn dathlu ein Cymreictod wrth greu cyfleoedd lu i’r disgyblion gyfathrebu a chymdeithasu yn y Gymraeg a phrofi gwerth a budd eu dwyieithrwydd.

Gwahoddwyd nifer o bobl ddiddorol iawn i’r ysgol i gynnal gweithdai gyda’r disgyblion. Eu nod oedd pwysleisio pa mor allweddol fu’r Gymraeg yn llwyddiant eu gyrfaoedd. Ymhlith yr ymwelwyr roedd y cynhyrchydd i gwmni teledu Afanti, Aled John, a’r actores ar Bobl y Cwm, Ros Richards.

Ynghyd â’r ymweliadau cafwyd nifer o stondinau yn ystod yr wythnos yn gwerthu melysion a choctels sudd a.y.b. Bu DJ’s o’r chweched dosbarth yn gwneud rhaglen radio gyffrous ar Radio Gyts ac roedd clybiau niferus yn ystod yr awr ginio, o goluro i ffasiwn yr 80au.

Roedd hi’n wythnos ysgubol, ac i goroni’r holl weithgareddau roedd ymweliad gan yr enwog Glyn Wise. Bu’n annerch yr ysgol gyfan ac roedd yn wirioneddol wych. Aeth ati i drafod ei gyfnod yn y tŷ, ei brofiadau ers gadael y tŷ ac yn bwysicaf oll, ei gariad at yr iaith a pha mor freintiedig mae’n teimlo ei fod yn ddwyieithog! Atebodd Glyn lwyth o gwestiynau’r disgyblion ar ddiwedd yr anerchiad ac roedd y disgyblion i gyd wedi cael modd i fyw.