Cartref /Home

Newyddion / News

Pynciau / Subjects

 

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Ymweliad Blwyddyn 9 â'r Cynulliad Cenedlaethol


Dros yr wythnosau diwethaf, aeth grwpiau o ddisgyblion Blwyddyn 9 yr ysgol i ymweld â'r Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd. Yno gawsom gyfle i ddysgu am wleidyddiaeth yng Nghymru.


Rhoddodd y Swyddogion Addysg gyflwyniad i ni ar sut mae'r Cynulliad yn gweithredu. Yn ystod eu cyflwyniadau, cawsom gyfle i bleidleisio ar amryw o bynciau gwahanol, gan ddefnyddio teclyn pleidleisio electronig. Roedd pawb wedi mwynhau'r gweithgaredd am ei fod yn debyg i chwarae gem o "Who wants to be a millionaire!"


Yn dilyn hyn, roedd yn rhaid i ni gasglu gwybodaeth o'r brif arddangosfa er mwyn ateb cwestiynau'n seiliedig ar bethau fel etholaethau ac Aelodau'r Cynulliad. Yn ogystal â hyn, cawsom gyfle i gymryd rhan mewn ffug etholiad. Roedd yn rhaid i
ni bleidleisio dros faterion yn ymwneud ag ysgolion, y gymuned a chwaraeon.


Ar ddiwedd y dydd, cawsom gyfle i weld y siambr ble mae'r holl gyfarfodydd pwysig yn cael eu cynnal. Buodd rhai disgyblion yn ddigon lwcus i gael eistedd yn rhai o seddau'r siambr. Yn ogystal â hyn, buom yn ffodus i gwrdd â rhai aelodau o'r Cynulliad - Irene James sy'n cynrychioli etholaeth Islwyn a Jocelyn Davies, rhanbarth y De Ddwyrain. Braf oedd cael cyfle i holi'r ddwy ac i glywed am eu
profiadau.


Roedd yr ymweliad yn syniad ardderchog oherwydd roedd pawb wedi dysgu llawer o bethau newydd ac wedi mwynhau bod yn rhan o fwrlwm y Cynulliad am ddiwrnod. Bu'r daith yn llwyddiant mawr ac yn un buddiol hefyd.


Dosbarth 9 a,b