|
|
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | ||
|
Plant Cwm Rhymni yn cyffwrdd y lleuad Glaniodd meteorynnau a llwch o'r lleuad yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni'r wythnos hon. Arddangoswyd llwch a chreigiau o'r lleuad ynghyd â'r meteorynnau a ddychwelwyd i'r ddaear o'r ymdeithiau Apollo adnabyddus i'r lleuad yn yr ysgol Pedwar sampl o'r lleuad yn unig sydd ym Mhrydain a bu'n rhaid i'r ysgol warantu diogelwch yr arddangosfa oherwydd bod y samplau mor werthfawr i'r byd gwyddonol. Darparwyd cyfleoedd i'r disgyblion gyffwrdd a gafael y meteorynnau trwy gynllun dros dro gan sefydliad byd enwog NASA fel rhan o'u hymrwymiad addysgol i ddatblygu ymwybyddiaeth wyddonol. Casglwyd y samplau gan deithiau NASA i'r lleuad yn yr 1960au a'r 1970au. Yn ystod yr ymdeithiau dychwelodd gofodwyr gyda 382 kilogram o ddeunydd lleuadol i'r ddaear. Mae'r rhan fwyaf o'r deunydd wedi ei ddefnyddio gan wyddonwyr i astudio'r lleuad, ond penderfynodd NASA ddefnyddio rhan ohono i ddatblygu cynlluniau i helpu plant ddysgu mwy am arwynebedd y lleuad ac astudiaethau planedol. Dywedodd Matthew Webb, athro Ffiseg, "Mae'r plant wedi elwa'n fawr o'r cyfle anghyffredin i astudio samplau mor werthfawr â'u defnyddio yn ymarferol mewn gwersi. Mae'r disgyblion wedi mwynhau astudio'r lleuad mewn gwersi ac maent yn ymwybodol iawn o'r ffaith eu bod yn gweithio ar brosiect sydd wedi ei drefnu gan NASA. "Roedd yr ysgol gyfan yn gyffrous iawn pan glywyd bod pethau anghyffredin yn ymweld â'r ysgol, a mae wedi bod yn anrhydedd i'r ysgol fod yn rhan o'r cynllun. " Daethpwyd dim ond â chyfanswm o 382 kilogram o ddeunydd o'r lleuad gan y teithiau Apollo felly gallwch ddychmygu pa mor werthfawr yw un smotyn o lwch o'r lleuad!" Roedd April Lloyd, 13 o'r Rhymni wedi mwynhau'r arddangosfa yn fawr, " Roedd yn brofiad arbennig i arsylwi'r samplau lunar oherwydd ein bod wedi bod yn astudio arwynebedd y lleuad yn ein gwersi Gwyddoniaeth, ond nid pob diwrnod gewch chi'r cyfle i ddal a theimlo meteorynnau yn eich dwylo!" Mae Geraint Hobbs, 13 o Abercarn yn ymddiddori'n fawr
ym myd y gofod a dywedodd, " Mae gennyf ddiddordeb mawr yn ymdeithiau
i'r gofod a roeddwn wrth fy modd i fedru gweld y darnau o'r lleuad a darganfod
mwy am ba rannau o'r lleuad a ddaethpwyd yn ôl gan ofodwyr teithiau
Apollo"
Cwm Rhymni Students Touch the Moon Moon dust and meteorites made a landing at Ysgol Gyfun Cwm Rhymni this week. Moon dust and rock taken from the Apollo landings were on display along with some meteorites. The moon Samples are one of only four in the country and the school had to guarantee the exhibit's safety as they are priceless. The samples were provided by the UK's Particle and Physics and Astronomy Research Council which offers free of charge short term loans of the objects from space. The samples were collected during NASA's manned space missions to the Moon in the late 1960's and 1970's. During these missions the Apollo astronauts brought back to Earth 382 kilograms of lunar material. Most of this material is used by scientists to study the Moon, but NASA decided to use a small proportion of the rock and soil to develop lunar and planteary sciences educational packages. Physics teacher Matthew Webb commented, "The pupils have benefited from a once in a lifetime opportunity and been very fortunate to be provided with practical priceless space samples. The pupils have thoroughly enjoyed studying the lessons and recognized that they are quite privileged to be working on a project organized through NASA." "The school has been very excited when they heard something unusual would be visiting the school and it has also been a great privilege for the school. A total of 382 kilograms of material from the moon was brought back by the Apollo missions so you can imagine how precious even one speck of moon dust can be." April Lloyd, 13 from Rhymney thoroughly enjoyed the display,
"It was a fantastic experienc to view the lunar samples because we
have recently been studying the moon's surface in science lessons and
it's not every day you have the chance to touch and feel meterorites.
Scientists were also amazed at how few types of rock there
were and the fact that the moon was as old as the Earth. The three meteorites
were the rarest made out of nickel and iron, were from the asteroid belt
between Mars and Jupiter.
|
|
||