Cartref /Home

Newyddion / News

Pynciau / Subjects

 

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Wythnos Fathemateg, Hydref 10 - 14, 2005

Er mwyn dathlu’r wythnos Fathemateg yng Nghymru, trefnodd yr Adran Fathemateg wythnos o weithgareddau cyffrous a phleserus i’r ysgol gyfan.

Paratowyd gystadleuaeth Sudoku, un ar gyfer pob blwyddyn yn yr ysgol ac un hefyd ymhlith yr athrawon. Yn anffodus yr oedd athro di-enw wedi twyllo felly fe’i daflwyd allan o’r gystadleuaeth.

Hefyd, trefnwyd cwis Mathemateg ar gyfer blwyddyn 7, 8 a 9 lle roedd pob llys â phum aelod ar y tîm. Holodd un o’r athrawon cwestiynau ar nifer o bynciau gwahanol ac roedd rhaid i’r timau “byzio’r”atebion i mewn. Roedd y gynulleidfa(sef gweddill y flwyddyn) yn gallu ateb y cwestiwn os nad oedd y timau yn gallu ateb. Cafodd pawb lawer o hwyl yn y cwis a gobeithiwn yn fawr fydd yr adran yn gallu trefnu rhywbeth tebyg y flwyddyn nesaf.

Trefnwyd hefyd llu o weithgareddau eraill ar draws y cwricwlwm, e.e cyfanswm y gair, lle rifwyd pob lythyren yn y wyddor o 1 i 26. Yna rhoddodd yr athro gair i’r dosbarth a roedd disgwyl iddynt weithio allan cyfanswm y gair, e.e UNIONGYRCHOL = sgôr o 161

I gloi’r wythnos, trefnodd yr adran daith ar gyfer blwyddyn 9 i’r Gerddi Botaneg yn Llanarthne, ger Caerfyrddin. Roedd rhaid dilyn llwybr arbennig o amgylch y gerddi a roedd angen datrys amrywiaeth o broblemau mathemategol oedd yn ymwneud â’r gwaith rydym yn astudio yn ein gwersi a roedd yna wobr i’r ddau dim buddugol. Roedd y llwybr yn sialens ond roedd hefyd yn ddiddorol a hwylus, a roedd y gloygfeydd yn hyfryd hefyd.

Rwy’n hynod falch i fedru adrodd fod y daith a’r wythnos gyfan yn lwyddiant enfawr. Cafodd pawb amser arbennig o dda a rydym yn ddiolchgar iawn i’r adran a’r ysgol am drefnu wythnos WYCH!

 

Eleri Parfitt Blwyddyn 9 / Year 9, Tudful 5

 

Mathematics Week, October 10 – 14, 2005

To celebrate the National Mathematics week of the year, the Maths Department organized a week of full and interesting activities for us to enjoy!

There was a Sudoku challenge for each year and even a competition for the teachers. A prize was awarded for the first correct competitor in each year. Unfortunately, due to the high level of competition among the staff one unnamed teacher was disqualified for cheating!

There was also an excursion arranged for year 9 pupils to the National Botanical Gardens in Llanarthne near Carmarthen. It was an interesting and educational trip that proved a great success and everyone enjoyed themselves immensely. The purpose of the trip was to complete a section of mathematical questions on the ‘Maths Trail’. Chocolate was awarded to the two winning teams who answered questions correctly. Mr Gravelle naturally, was very annoyed that the pupils in his class hadn’t won the chocolate!

Another activity that was kindly arranged for us was an interhouse competition in which I participated. Unfortunately, my team weren’t victorious but there was strong competition from the schoolhouses of Tudful, Sannan and Cadog and from the winning team Mabon.

I am pleased to report that the Year 7 competition was won by Sannan – YES!

 

Ffion Parfitt blwyddyn 9 / Year 9 / Sannan 6