|
|
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | ||
WYTHNOS TRAWS-GWRICWLAIDD / CROSS-CURRICULAR FUND RAISING
Roedd disgyblion blwyddyn 10 Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn hynod brysur dros eu hwythnos olaf yn yr ysgol cyn y gwyliau haf. Roeddent wrthi yn trefnu wythnos o weithgareddau trawsgwricwlaidd gan godi arian i lu o wahanol elusennau. Cododd y disgyblion dros £1,000 ar gyfer yr NSPCC, Marie Curie, y Groes Goch, Joshua Foundation a’r Samariaid. Mae’r Adran Addysg Grefyddol wedi trefnu wythnos o wersi a gweithgareddau trawsgwricwlaidd yn trafod materion megis tlodi bydol, dioddefaint dynol, cyfiawnder a chydraddoldeb. Pwrpas yr wythnos o safbwynt addysgol oedd codi ymwybyddiaeth am y materion moesol yma a dadansoddi agweddau crefyddol gwahanol tuag at y pynciau ac wrth gwrs codi arian sylweddol dros yr elusennau. Bu canmol mawr am frwdfrydedd a chymhelliant y disgyblion am drefnu’r holl gweithgareddau eu hunain, gan gynnwys ymchwilio a chanfod gwybodaeth am bob elusen a ddewiswyd. Ymhlith y digwyddiadau cyffrous a fuodd yn cymryd lle oedd eillio gwallt yr athro Dylunio a Thechnoleg Mr Owain Jones, cystadleuaeth Wow Ffactor arthrawon, eillio coesau dynion y staff, traws gwlad noddedig, tawelwch noddedig, taflu sbwng at athrawon a chystadleuaeth dawnsio disgo. Canmolodd Miss Rachel Thomas, Pennaeth Addysg Grefyddol waith caled y disgyblion, “ Wythnos unigryw ac anghyffredin iawn fu yr wythnos ond roedd blaengaredd y disgyblion yn anhygoel. Roedd y disgyblion a’r athrawon wedi mwynhau’r wythnos mas draw ac mi fydd pob elusen yn elwa’n fawr o weithgarwch y disgyblion”.
Year 10 pupils at Ysgol Gyfun Cwm Rhymni have been extremely busy this week fund raising for several different charities. The pupils have raised over £1,000 for the NSPCC, Marie Curies Cancer Research, Red Cross, Joshua Foundation and the Samaritans. The Religious Education department have co-ordinated a week of cross-curricular lessons and activities discussing world poverty, human suffering, justice and equality. The purpose of the special week was to raise awareness about these moral issues and analyse differing religious attitudes towards these topics and to raise funds for each charity. The teachers have praised the enthusiasm and motivation of the children who have arranged the fund-raising themselves. Among the fund-raising activities was a sponsored hair shaving of Design and Technology teacher Mr Owain Jones, a Pop Idol style teacher singing competition, leg waxing of male teacher legs, a tug of war race, sponsored cross country competition, sponsored silence, sponge throwing at teachers and also disco dancing. The Head of Religious Studies, Miss Rachel Thomas praised the pupils efforts, “It has been a very unusual week but the initiative of the pupils has been phenomenal. Pupils and staff alike have thoroughly enjoyed the week’s activities and each charity will benefit immensely from the pupils well deserved efforts.”
|
|
||