|
|
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | ||
‘CAT-WALK’ YNG NGHWM RHYMNIMAE PLANT BLWYDDYN 12 – Angharad Chidgey, Rebecca Garnault a Kate Rowlands o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Fleur De Lys wedi trefnu sioe ffasiwn elusennol ar Ddydd Mercher Chwefror 20fed 2008 am 6.30yh yn neuadd Ysgol Gyfun Cwm Rhymni i godi arian i’r elusen ‘The Meningitis Trust’ , ac i helpu hyrwyddo busnes lleol ‘Wedding Secrets’, Caerffili. Bydd y sioe yn arddangos ffrociau ffurfiol/prom a phriodas o ‘Wedding Secrets’, wedi eu modelu gan blant blwyddyn 12 o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, yn ogystal ag amryw o stondinau sy’n cynnwys gemwaith a coronau, celfio balŵn, cynllunio gwallt, cacennau priodas, snaciau a mwy! Ffi mynediad yw £2, croeso cynnes i bawb! Bydd hefyd gwobrau raffl wedi eu rhoddi gan fusnesau lleol; mi fydd yr holl enillion yn mynd tuag at yr elusen ‘The Meningitis Trust’. Am wybodaeth bellach, cyfweliadau neu i gymryd ffotograffiau o’r digwyddiad, cysylltwch â Kate Rowlands trwy e-bostio KateRowlands2407@msn.com. Llawer o ddiolch am eich amser. CAT-WALK AT CWM RHYMNIYEAR 12 STUDENTS - Angharad Chidgey, Rebecca Garnault and Kate Rowlands of Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Fleur De Lys have organised a charity fashion show on Wednesday February 20 th 2008 at 6.30pm in the school hall of Ysgol Gyfun Cwm Rhymni to raise money for the charity The Meningitis Trust , and to help promote local business ‘Wedding Secrets’, Caerphilly. The fashion show will be featuring formal/prom and wedding dresses from Wedding Secrets, modelled by year 12 students of Ysgol Gyfun Cwm Rhymni as well as various stalls including jewellery and tiaras, balloon artistry, hair design, wedding cakes, snacks and more! Entry fee is £2, everyone is welcome! There will also be a raffle draw with prizes donated by local businesses; all proceeds will be donated to the Meningitis Trust. For further information, interviews or to photograph the event please contact Kate Rowlands by e-mailing KateRowlands2407@msn.com. Many thanks for your time.
NODIADAU I OLYGYDDION Rydyn ni yn 3 myfyriwr blwyddyn 12 yn astudio am lefelau A yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Fleur DeLys, Bwrdeistref Caerffili; sydd wedi datblygu y syniad hwn yn ein hamser ein hunain i helpu hybu busnes lleol a chodi arian ar gyfer elusen. Rydyn ni yn credu ei fod yn achos da oherwydd mae llid yr ymennydd yn effeithio ar bobl o bob oedran ond yn neilltuol y rhai yn eu harddegau. ‘The Meningitis Trust’ yw’r elusen llid yr ymennydd mwyaf blaenllaw yn y DU , yn codi ymwybyddiaeth o lid yr ymennydd a gwenwyniad gwaed trwy raglenni hyfforddi ac addysgiadol, yn gronfa ymchwil i fewn i ofal ac effeithiau ar ôl, a chynnig cymorth ymarferol am fywyd i’r rai ag effeithiwyd. Mae ‘Wedding Secrets Ltd.’ yn gwmni lleol wedi ei sefydlu yng nghanol tref Caerffili sydd yn datblygu ei fusnes ac ymwybyddiaeth i ddosbarthu profiad proffesiynol ac o ansawdd dda i bob cwsmer.
We are, 3 year 12 students studying for A Levels at Ysgol Gyfun Cwm Rhymni,Fleur DeLys, Caerphilly Borough; who have developed this idea to help promote a local business and raise money for charity in our own time. We believe it is for a good cause as Meningitis affects people of all ages but particularly those in teenage years. The Meningitis Trust is the UK’s leading meningitis charity, raising awareness of meningitis and septicaemia through an education and training programme, funding research into aftercare and after-affects, and offering practical support for life to those affected. Wedding Secrets Ltd. is a local company, based in Caerphilly town centre that is developing its business and awareness to deliver a bespoke, professional, quality experience for every customer.
|
Poster y sioe ffasiwn / Fashion show poster
|
||