Cartref /Home

Newyddion / News

Pynciau / Subjects

 

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Diwrnod Santes Dwynwen

 

Roedd yna awyrgylch cariadus yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yr wythnos ddiwethaf wrth i ni ddathlu diwrnod Santes Dwynwen. Gweithiodd yr athrawon ac aelodau’r chweched dosbarth yn galed er mwyn trefnu nifer o weithgareddau ar gyfer y diwrnod fawr.

Roedd cyfle i wneud cerdiau Santes Dwynwen yn y clwb celf, coginiodd aelodau’r chweched a rhai athrawon fisgedi siâp calon, i’w gwerthu ar ddiwrnod Santes Dwynwen. Ar y diwrnod ei hunan darlledwyd sioe radio gan ‘Y Tri Doctor Cariad’ yn y chweched, chwaraewyd ganeuon rhamantus a darllenwyd negeseuon caraid yn fyw yn y ffreutur.

Er bod nifer o bethau’n digwydd yn ystod yr wythnos; prif atyniad yr wythnos oedd y rhosod cochion a oedd ar gael i’w harchebu. Ar ddydd Iau lapiwyd y rhosod ac ychwanegwyd negeseuon atyn nhw gan aelodau’r chweched dosbarth. Ac ar ôl cinio dosbarthwyd nhw i’r rhai oedd yn ddigon ffodus i’w derbyn oddi wrth eu caraidon a’u ffrindiau.

Bu’r diwrnod arbennig yma yn llwyddiannus iawn a mwynheuodd pawb y gweithgareddau yn ystod yr wythnos a’r cyfle i anfon a derbyn rhosod. Gobeithiwn wneud hyn eto’r flwyddyn nesaf er mwyn rhannu’r cariad unwaith eto wrth ddathlu diwrnod Santes Cariadon Cymru.

Gan Nia Wilson

Bl. 12