Cartref /Home

Newyddion / News

Pynciau / Subjects

 

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

GONESTRWYDD NATHAN YN TALU ‘PYSGOD’


Bu enw’r bachgen bedair ar ddeg oed Nathan Gittings o Ystrad Mynach ar flaen
papurau newydd a rhaglenni teledu flwyddyn yn ôl fel y bachgen a ganfodd £10,000
ger yr afon Rhymni. Cymerodd Nathan y cwdyn oedd yn dal y swm anhygoel o arian
i’w orsaf heddlu lleol. Daliodd ei onestrwydd sylw’r wasg lleol, rhyngwladol a
chenedlaethol oherwydd derbyniodd rhoddion o bobl ar draws y byd gan gynnwys rhai
o’r Eidal, Sbaen a hyd yn oed Ghana. Bu’n ddigon ffodus hefyd i dderbyn £500 gan
bapur newydd y Mail on Sunday ac yn sgil ei ddiddordeb mawr ym mhysgota
derbyniodd 2 wialen pysgota newydd sbon gan y cylchgrawn Angling Times.


Daw’n amlwg felly bod yr offer pysgota newydd wedi cael effaith arbennig ar ei
sgiliau fel pysgotwr oherwydd mae newydd ddychwelyd o gynrychioli Cymru mewn
pencampwriaeth pysgota Ewropeaidd ger Bergen yn Norwy. Treuliodd deg diwrnod ar
lynoedd ac afonydd yn pysgota yn y gystadleuaeth y brithyll brown gwyllt. Daeth
tim Cymru yn bedwerydd tu ôl i Ffrainc, Gweriniaeth Tsiec a Norwy. Dywedodd
Nathan sy’n byw yn Stryd yn Ystrad Mynach, “Nes i fwynhau pysgota yn fawr iawn ac yr
oedd yn braf cael y cyfle i glywed cymaint o ieithoedd gwahanol tra’n pysgota. Rwy’n
gobeithio’n fawr gallai gadw fy lle yn y tim”.