|
|
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | ||
|
CHWARAEWR PŵL O FRI / EUROPEAN POOL SUCCESS FOR TOM Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni wedi bod yn dathlu llwyddiant y chwaraewr pŵl Tom Dawes, sydd yn ddisgybl ym mlwyddyn 11. Bu Tom yn fuddugol mewn cystadleuaeth ieunectid mewn Mhencampwriaeth Pŵl Ewropeaidd yn Llundain. Darlledwyd y gystadleuaeth yn fyw ar y sianel deledu lloeren SkySports. Cychwynnodd Tom chwarae pŵl pan oedd yn 10 oed yn ystod gwyliau teulu yn Sbaen. Ar ôl derbyn bwrdd pŵl ar ei benblwydd canlynol dechreuodd chwarae pŵl o ddifrif a chynrychioli tîm pentref Llanbradach, cyn cael ei ddewis i dîm ieunectid Cymru. Enillodd siec gwerth £150 am lwyddo yn y gystadleuaeth mewn rownd derfynol agos yn erbyn tîm o Ffrainc. Meddai Tom, “ Roeddwn wedi chwarae y gorau i mi wneud erioed yn y rownd derfynol ond roeddwn yn nerfus iawn ar ôl ystyried bod fy ffrindiau a’r athrawon i gyd nôl yn yr ysgol gallu gwylio’r chwarae yn fyw ar y teledu!” Ei freuddwyd yw cynrychioli tîm oedolion Cymru yn gyson a hefyd teithio’r byd yn chwarae pŵl yn broffesiynol. |
|
||