Cartref /Home

Newyddion / News

 

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Llwyddiant i bêl-rwydwraig yr ysgol / Success for a school netball player

Mae Nia Rawlins, sef disgybl 14 mlwydd oed yn Ygol Gyfun Cwm Rhymni yn dathlu cael ei dewis i gynrychioli tîm pêl-rwyd dan 17 Cymru.

Er ei bod sawl blwyddyn rhy ifanc mae Nia yn aelod bwysig o’r garfan ac mae ar fin chwarae gemau rhyngwladol yn erbyn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon.

Mae Nia yn chwarae i dim Central yng nghynghrair menywod Caerdydd a mae hefyd yn chwarae i dîm Cymoedd Morgannwg.

Wrth ddathlu’i llwyddiant mae Nia yn talu teyrnged a diolch i gefnogaeth frwd ei rhieni sydd wedi bod yn mynd â hi i ymarferion a threialon di-ddiwedd dros y blynyddoedd.

Daw Nia o deulu amlwg ym myd chwaraeon. Bu ei thad John, yn chwaraewr rygbi i dîm Penybont a hefyd Casnewydd yn safle’r prop a bu’n aelod o’r garfan cenedlaethol a deithiodd i Gwpan y Byd cynaf erioed 1987 yn Seland Newydd ac Awstralia. Mae ei mam, Anne, yn athrawes Addysg Gorfforol yn Ysgol Gyfun St Cennydd yng Nghaerffili.

Uchelgais Nia yw chwarae yng Ngemau y Gymanwlad yn Melbourne yn 2006 a hefyd Gemau Pêl-rwyd Ieunectid y Byd yn yr Ynysoedd Cook yn 2009.

Mae Nia yn siomedig na fedr hefyd freuddwydio am chwarae yn y Gemau Olympaiddd ryw ddydd oherwydd nad yw pêl-rwyd yn cael ei chwarae mewn digon o wledydd ledled y byd er mwyn cyfiawnhau cael ei chwarae yn Beijing yn 2008.

 

Nia Rawlins, a 14 year old pupil at Ysgol Gyfun Cwm Rhymni has been selected in the Welsh under 17 netball squad. Despite her tender years Nia is an important member of the 16 girl squad and will shortly engage in fixtures against England , Ireland , Scotland and Northern Ireland .

Nia who also plays for the Central team in the Cardiff ladies netball league also represents the Glamorgan Valleys team.

Nia pays tribute to the support she has received from her parents that have enabled her to reach this level of competition. She comes from a sporting family background. Her father John, was a first class rugby player with Newport and Bridgend and was a member of the 1987 Welsh rugby squad that traveled to the inaugural World Cup in Australia and New Zealand , while her mother Anne, is a Physical Education teacher at St Cennydd Comprehensive school.

Her ambition is to represent Wales in the Commonwealth Games in Melbourne in 2006 and also the World Youth Netball Games in 2009 which will be held in the Cook Islands . She is disappointed that netball doesn’t figure in the Olympics due to the fact that an insufficient number of countries play netball.