|
|
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | ||
|
Atgofion Niwgwl 2008 Dechreuon ein taith ddydd Iau, â phawb yn llawn cyffro. Dau fws-mini yn llawn bagiau, bwyd a brwdfrydedd! Teithiom ni am ddwy awr nes i ni gyrraedd Caerfyrddin; mwynheuon ni bryd o fwyd yng nghaffi llon ger yr afon ble y bu Miss Tomos Maths yn gweithio ar un adeg. Caneuon ni'r holl ffordd i Niwgwl wrth i’r haul tywynnu. Ymhen tipyn (ddwy awr yn ddiweddarach!), cyrhaeddon ni i ein cyrchfan ‘da gwynebau sionc. Fe oedd yna groesawiad cynnes a ddramatig i ddweud y lleia’ gan ein ffrindau-i-fod Monty a Rosie. Ein gweithgaredd cyntaf oedd taith ar droed ar hyd yr arfordir i bentre’ fach er mwyn mwynhau pryd o fwyd blasus. Tra yno, bu Mark yn benderfynol ei fod yn medru cydbwyso gwydrau peint, un ar ben y llall, heb iddynt eu syrthio. Byddai’n gadael y diwedd i’ch dychymyg! Brecwast anferthol o facwn, wyau, selsig a ffa oedd yn gwynebu y grŵp ar fore dydd Sadwrn, heb law am y rhai dethol o’r grŵp a chafodd eu llusgo allan o’u gwlai gan Mr Price, a oedd yn benderfynol o lwyddo ar ei rediad hirwyntog cyn saith y bore. Gweithgaredd fy ngrŵp i, y bore hwnnw oedd Coasteering gyda Monty, Miss Tomos a Miss Davies. Roedd e’n olwg i weld pawb yn edrych mor ddeiniadol yn eu wetsiwts! Roedd e’n brofiad bythgofiadwy gyda phob un yn y grŵp yn llwyddo i guro eu hofn trwy neidio yn bendramwnwgl i’r môr glaswyrdd ag ewyn euraidd. Dychwelom ni i’r gwersyll i gwrdd â’r gweddill â oedd wedi paratoi picnic ar ein cyfer. Y prynhawn hwnnw, treuliom ni cyfnod ar y traeth yn chwarae gemau ar y tywod ac yn y môr. Pryd o fwyd y noson honno oedd yn nhafarn ym mhentref bach sydd yn gyfarwydd iawn i Miss Davies Daearyddiaeth. Dydd Sul, ein diwrnod olaf. Ein tro ni heddiw oedd i gymryd rhan ar y cwrs rhaffau gyda Miss Tomos. Roedd yn rhaid i ni gydweithio wrth geisio dringo uchderau ar ben cewyll tra ein bod ynghlwm yn harneisiau. Bu ochrau cystadleuol pob un ohonom wedi ymddangos yn ystod y weithgaredd ynghyd â llawer o chwerthin. Toc, bu rhaid i ni bacio a dechrau meddwl am adael ein cyrchfan am y gorwel. Dau fis yn ddiweddarach, mae edrych yn ôl ar fy nghofion o’r penwythnos hwnnw dal i godi gwen ac rwyf yn edrych ymlaen at ddychwelyd i’r fan hynny'r byd unwaith eto.
Owain Chick (â chymorth ffrind)
|
|
||