Cartref /Home

Newyddion / News

Pynciau / Subjects

 

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Dathlu llwyddiant paffio-cic Kellie

Llongyfrachiadau mawr i Kellie Barnaby o flwyddyn 11 sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ar y maes rhyngwladol mewn cystadleuaeth paffio-cic ar ynys Cyprus. Ymladdodd Kellie yn erbyn merched eraill o bob cwr o'r byd a daeth yn ail yn y gystadleuaeth derfynol. Ymdrechodd Kellie yn galed i gaslglu'r arian er mwyn iddi fedru fforddio dalu'r gost er mwyn teithio i Gyprus a chystadlu yn y gytadleuaeth.

Dechreuodd Kellie ymddiddori yn y disgyblaeth ar ôl iddi cael ei bwlio y tu allan i'r ysgol a phenderfynu bod angen iddi amddiffyn ei hun yn well. Ymunodd felly â Chlwb Paffio-Cic yn Llanishen ac yn gyflym iawn dangosodd bod ganddi'r medr a'r cryfder angenrheidiol i lwyddo. Roedd ennill y wobr lliw efydd ar lannau traethau Larnaca yng Nghyprus yn benllanw hapus ar daith hir ac emosiynol. Dywedodd Kellie, "Roeddwn yn falch iawn o ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth ac yn wir yr oedd yn ddiwrnod hapusaf fy mywyd ar ôl imi ddioddef o gael fy mwlio pan oeddwn yn ifanc. Fy neges i blant eraill sydd yn cael eu bwlio yw bod paffio-cic yn eich helpu i amddiffyn eich hunan yn well rhag y bwli ond mae hefyd yn gamp hapus a llawen dros ben."

Yn ogystal â'r gamp uchod, llwyddodd Kellie i ennill gwobr Compact gan yr EBP Caerffili am ei hymdrechion yn yr ysgol a'i gweithgareddau allgyrsiol felly blwyddyn llwyddiannus iawn yn ei bywyd. Pob lwc yn yr arholiadau.

Kick-boxing Kellie flies the flag in Cyprus


Congratulations to Kellie Barnaby from Caerphilly who has recently achieved an outstanding feat on the international stage by representing Wales and coming third in a world kick-boxing competition. Kellie fought hard against girls from a similar age in the competition held on the Mediterranean island of Cyprus. Kellie began taking an interest in the discipline following unpleasant bullying experiences outside school and quickly enjoyed the activity, which aided her own confidence and self-esteem.

She joined Caerphilly Devils kickboxing club and soon participated in local and national competitions. She won a bronze medal in Cyprus and said, "This was the happiest day of my life and the bronze medal is so rewarding following my bullying experiences. My message to other young people is that kick-boxing can change people's lives and is an extremely rewarding and enjoyable activity that more people should take up".

In a very successful year, Kellie also managed to win a Caerphilly EBP Compact award for her achievements in the school and her extra curricular work in the community. Congratulations and good luck in the examinations.