Cartref /Home

Newyddion / News

Pynciau / Subjects

 

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

DATHLU I KARATE KIDS ABERBARGOED


Mae ddau fachgen o Aberbargoed yn dathlu cael eu dewis i gynrychioli Cymru mewn
pencampwriaeth karate yn erbyn Lloegr. Mae Brandon Thorpe, 12 oed a Terry Heron
15 oed, yn edrych ymlaen i deithio lawr i Hastings yn swydd Sussex dros
benwythnos Hydref 16eg i gystadlu mewn pencampwriaeth, dan 16 oed. Mae’r ddau yn aelodau brwd o Glwb Karate Ynysowen ym Merthyr a maent wedi bod yn ymwneud â’r gamp ers iddynt fod yn saith oed. Mae Brandon yn disgwyl yn gyffrous at y gystadleuaeth. Meddai,
“Hwn fydd fy ail gap i Gymru a rwy’n edrych ymlaen i guro’r Saeson yn fawr
oherwydd nid ydym wedi cael lawer o hwyl yn eu herbyn gyda’r rygbi yn ddiweddar!”