|
Jesus Christ Superstar
Yn ystod mis Tachwedd, cafodd bron i fil o bobl yr anrhydedd
o weld y sioe
wefreiddiol yma draw yn Neuadd y Glowyr yn y Coed-duon. Perfformiwyd y
sioe, o
danarweiniad yr adrannau Drama a Cherddoriaeth, gan ddisgyblion brwd yr
ysgol.
Wedi wythnosau o glyweliadau nôl ym mis Mehefin, penderfynwyd mai
David Hodges
oedd i chwarae rol flaengar Iesu Grist, Gafyn Poulton oedd i chwarae rol
annifyr
Jiwdas, a Sara Chojnacki oedd i chwarae rol Mair Magdalen. Profodd y tri
eu bod
yn llawn deilwng or rhannau yn fy marn i. Wedir apwyntiadau
yma, roedd yn awr
gan Mrs Cartin Roberts y dasg anodd o gyfieithur sioe or Sasneg
ir Gymraeg, ac
yn sicr, haedda ganmoliaeth am ei dawn unigryw.
Wedi misoedd o ymarfer caled, bob nos Lun a nos Iau a dydd Sul roedd ymroddiad
pawb, y corws, y dawnswyr y prif gymeriadau ar athrawon yn gampus.
Gwelwyd
gwelliant sylweddol ir canu gyda help Miss Odette Jones a Mrs Bethan
Phillips,
heb sôn am ein doniau actio a dawnsio o dan gyfarwyddyd Mr Iwan
Davies a Miss
Lisa Williams - nid oeddwn yn ymwybodol, i fod yn onest, eu bod yn ddawnswyr
mor
ddawnus!! Roedd cyfarwyddiadau deallus Mrs Catrin Roberts yn cryfhau fy
sgiliau
i yn bersonol, ac yn cryfhau ansawdd y sioe yn aruthrol.
Yn ystod y perfformiadau eu hun, nos Fawrth, Fercher a Iau, roedd adrenalin
pob
aelod or sioe ym pwmpio. Roedd gwefr drydannol yn rhedeg drwyr
gynulleidfa wrth
iddynt brofir wledd ir lygad ar glust, or goleuadau
llachar, ir set
anhygoel o wreiddiol, or band ysgubol a oedd yn cynnwys rhai o ddisgyblion
blwyddyn 10 ir canu pwerus. I mi yn bersonol wrth i mi wrando wrth
gefn
llwyfan, roedd lleisiau unigryw y prif gymeriadau yn danfon ias i lawr
fasgwrn cefn. Sawl
gwaith teimlais yn emosiynnol wrth wrando ar fy nghyd-ddisgyblion
fy ffrindiau
gorau yn canu mor arbennig. Roedd storir Iesu gymaint yn fwy dramatig
yn y
ffordd yma, ac roedd gweld wynebau syfrdannol y gynulleidfan pwysleisio
grym a
diddanwch y sioe i mi.
Yn wir, roedd y sioe yn odidog. Roedd cyd-weithrediad pob aelod or
cast ar
athrawon yn adlewyrchu ei llwyddiant. Wedi misoedd o baratoi brwd a thrwyadl,
roedd y perfformiadaun arbennig iawn. Braint oedd hi, i mi, yn fy
mlwyddyn
olaf yn yr ysgol i fod yn rhan o gynhyrchiad mor ffantastig. Hoffwn ddiolch
ir cast
cyfan am eu hymroddiad ar hwyl a gawsom wrth wneud y sioe. Hoffwn
hefyd ddiolch
i bob aelod or staff a gyfrannodd at y sioe arbennig hon, ac ai
gwnaeth yn
brofiad hwylus dros ben ac yn brofiad bythgofiadwy.
Gan Gruff Parsons

Poster y sioe gerdd
|
|