Cartref /Home

Newyddion / News

Pynciau / Subjects

 

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

EISTEDDFOD YSGOL GYFUN CWM RHYMNI 2007

 

Ar Ddydd Gwener, Chwefror 16eg mwynhaodd Ysgol Gyfun Cwm Rhymni Eisteddfod arbennig iawn. Bu pob aelod o'r ysgol yn cymryd rhan ar y llwyfan mawr gan gynnwys holl aelodau’r staff dysgu. Roedd yr Eisteddfod hon yn un arbennig a hefyd yn wahanol oherwydd y beirniaid arbennig. Roedd dau o sêr Pobl y Cwm yn beirniadu, sef Huw Aeron a Rosalind Richards - y ddau ohonynt yn gyn ddisgyblion disglair ym myd perfformio a chwaraeon. Y beirniad arall oedd ein hymwelydd Mr Didacus Afegra, sef Prifathro Ysgol Uwchradd Gowrie, yng Ngogledd Ghana. Roedd Mr Afegra wedi bod yn ymweld â'r ysgol fel rhan o'r cyfeillio sydd wedi'i sefydlu dan nawdd y Cyngor Prydeinig. Braf oedd gweld Mr Afegra yn tynnu ei got gynnes a'i het wlân am unwaith yng nghanol rhialtwch y cystadlu!

Bu cystadlu brwd ymhlith y llysoedd Cadog, Sannan, Tudful a Mabon trwy gydol y dydd. Ymhlith rhai o fuddugwyr y dydd oedd Iwan Gruffydd o flwyddyn 9 a enillodd y tlws Cymraeg (Adran Iau). Enillydd y tlws Saesneg (Adran Iau) oedd Rhys Fussell am ei stori, 'The Island'. Heledd Brooks Jones o flwyddyn 13 enillodd y Gadair am ysgrifennu cyfres o ymsonau grymus a oedd yn llwyr haeddu'r wobr anrhydeddus hon, ym marn y beirniad sef mrs Rhiannon Lloyd, Prifathrawes Ysgol Gyfun Glan-Taf.

Enillydd y Fedal Saesneg oedd Daniel Sigsworth am ysgrifennu stori dan y teitl, 'Dead in the Rain'. Bu Emyr Gruffydd yn fuddugol yn y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus arbennig wrth ddadlau yn erbyn y dywediad, "Twll o le yw Cwm Rhymni". Bu'r diwrnod yn emosiynol iawn i Miss Elin Rhys o Adran y Gymraeg wrth iddi hel ei phac am Batagonia tan Nadolig. Bydd hi yn dysgu'r Gymraeg yn ysgolion Cymraeg y Wladfa ac yn manteisio ar ei gallu i siarad Cymraeg a hefyd Sbaeneg gyda'r Archentwyr.

Mae'r ysgol yn dathlu ei phen-blwydd yn bump ar hugain ers sefydlu'r ysgol eleni ac yn ystod Tymor yr Haf fe fydd llu o weithgareddau yn digwydd. Pinacl y dathlu bydd llwyfannu'r sioe gerdd Yn Ôl I'r Wythdegau rhwng dydd Mawrth, Gorffennaf 12 -dydd Iau, Gorffennaf 14. Y darn corawl yn yr Eisteddfod oedd can Michael Jackson "Ni yw y Byd". Mwynhaodd y disgyblion cyfle’r athrawon i berfformio’r gân ac eleni eto effeithiwyd ar y canu gan lais Mr Matthew Webb oedd yn ymdebygu i wylan sâl iawn! Bydd y gan yn ymddangos yn y sioe gerdd a chôr Mabon oedd yn fuddugol yn yr Eisteddfod. Ar ddiwedd yr Eisteddfod cyhoeddodd y Prifathro, Mr Mathias, mai llys Mabon oedd y buddugwyr a daeth Lloyd Evans, Capten y llys i'r llwyfan er mwyn derbyn y tlws.

Diwrnod gwych a llawen iawn!