|
Canlyniadau Eisteddfod yr Urdd 2005
Deuawd i fechgyn 15-19oed
3ydd David Hodges a Morgan Roberts
Mae David o Fargoed yn ddisgybl sydd yn cwblhau ei gyfnod
yn yr ysgol eleni ac yn
astudio Hanes, Cymraeg a Chymdeithaseg tra bod Morgan yn hannu o Goed-Duon
ac yn cwblhau ei astudiaethau TGAU fel disgybl blwyddyn 11. Bu David yn
chwarae'r brif ran yn sioe gerdd hynod lwyddiannus yr ysgol yn niweddar
sef Jesus Christ Superstar a llwyddodd y ddau fachgen i gael rhannau yn
Sioe Gerdd fythgofiadwy'r Urdd a lwyfannwyd am y tro gyntaf yn yr iaith
Gymraeg yng nghanolfan y Mileniwm, sef Les Miserables.
Sioe Gerdd Les Miserables
Llongyfarchiadau mawr i David Hodges, Morgan Roberts, Sara
Chojnacki a Ian Butterworth fuodd yn rhan o'r cast a hefyd Lana Bradshaw
fel aelod o'r gerddorfa.
Cystadlaethau Celf a Chrefft
Gellid gweld gwaith y disgyblion drwy edrych ar safwe'r
Urdd isod:
http://www.urdd.org/eisteddfodau/CMC2005/index.html
1af Rebecca Garnault (blwyddyn 9) Gwaith Lluniadu 2D
2ail Nia Rawlins (blwyddyn 9) Gwaith Ffotograffeg Cyfrifiadurol
2ail Sara Lewis (blwyddyn 9) Gwaith Cyfrifiadurol
2ail Rhiannon Reynolds(blwyddyn 9) Creu Arteffact
2ail Delyth Jewell (blwyddyn 13) Gwaith Celf Blwyddyn 12 & 13
|