|
Eisteddfod yr ysgol 2004 / School Eisteddfod
2004
Dydd Gwener Chwefror 13 cynhaliwyd eisteddfod flynyddol
ysgol Cwm
Rhymni yn y neuadd. Gwahoddwyd Lynwen de la Taste ac Aled John, sy'n gyn-ddisgyblion,
i feirniadu. Cawson nhw a phawb arall ddiwrnod difyr a chyffrous. Cystadleuaeth
newydd a phoblogaidd eleni oedd y gystadleuaeth siarad cyhoeddus. Llongyfarchiadau
i Wyn Roberts a ddaeth yn gyntaf. Enillydd tlws Cymraeg yr Ysgol Isaf
oedd Bronwen Rickard gydag Emyr Gruffydd yn ail a Megan Jones yn drydydd,
ac enillwyd tlws Saesneg yr ysgol isaf gan Michael Bell. Enillydd tlws
Saesneg yr ysgol uchaf oedd Delyth Jewell. Yng nghystadleuaeth y Gadair,
a feirniadwyd eleni .gan y Prifardd T. James Jones, dyfarnwyd Amy Jones
yn fuddugol gyda
Delyth Jewell yn ail a Thomas Morris yn drydydd. Cafwyd clod teilwng i'r
diwrnod gyda chystadleuaeth y corau a phob disgybl yn yr ysgol,yn cael
y cyfle i ganu Hafan Gobaith ar y llwyfan. Llongyfarchiadau i'r llys buddugol,
sef llys Cadog.
Amy Jones Llenor Buddugol y Gadair Eisteddfodol
Delyth Jewell Enillydd y Tlws Saesneg
|