|
Cystadleuaeth Cerddor Ifanc Caerffili, Mawrth 12 2005
Enillodd Emyr Gruffydd o flwyddyn 10 yr adran Llinynnol yn y gystadleuaeth
yma a
bu'n cynrychioli'r adran yn y Rownd Derfynol. Roedd yn agos iawn i'r
brig a phob cynrychiolydd arall (Chwythbrennau, Pres, Llais a phiano)
yn dod o
flwyddyn 12 ac 13. Derbyniodd canmoliaeth uchel gan y beirniaid a phroffwydwyd
dyfodol disglair o'i flaen.
offeryn:cello
darn: Elegie gan Faure
Cynhyrchiad "Y Ffliwt Hud" (Mozart) gan Gwmni Opera Cenedlaethol
Cymru
Dewiswyd Iwan Gruffydd o flwyddyn 7 ar ôl clyweliad i fod yn un
o'r tri bachgen
sydd â rhan bwysig yn yr opera yma, sef camp anhygoel a phrofiad
bythgofiadwy. Fe
fydd Iwan yn perfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a hefyd yn teithio
gyda'r
cwmni yng Nghaerdydd, Abertawe, Bryste,
Birmingham, Llandudno a Rhydychen rhwng mis Mai a Gorffennaf.
Llongyfarchiadau mawr i'r brodyr!
|