|
|
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | ||
|
Bring & Buy Dydd Gwener y 5ed o Chwefror fe gawsom ni 'Bring and Buy Sale' i godi arian at apêl Water Works y rhaglen Blue Peter. Cynhaliwyd yr arwerthiant yn ystod amser cinio ac roedd y gampfa yn llawn! Daeth disgyblion y chweched dosbarth a hyd yn oed yr athrawon. Bu'n amser cinio hwylus iawn a phawb yn mwynhau wrth brynu a gwerthu hen deganau a CDs. Gyda'r holl help fe lwyddwyd i godi £175.50 tuag at yr apêl i gael dwr glan i blant yfed yng ngwledydd Tanzania ac Uganda yn Affrica. Mae 'na llawer o blant yn y gwledydd hyn heb ddwr glan ar dap ac felly yn gorfod yfed dwr brwnt o afonydd. Mae'r dwr yma yn gallu achosi afiechydon sy'n gwneud plant yn sâl neu hyd yn oed yn gallu eu lladd. Mae pob £15 mae pobl y Deyrnas Unedig yn gallu ei godi yn gallu rhoi dwr glan i rywun yn Nhanzania neu yn Uganda am weddill eu bywydau. Felly, mae awr o brynu a gwerthu hen deganau wedi'n galluogi ni fel disgyblion i roi dwr glan i 16 o blant sydd wir ei angen.
|
|
||