Cartref /Home

Newyddion / News

Pynciau / Subjects

 

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

TAITH AMERICA

Diwedd mis Hydref aeth 96 o ddisgyblion chweched dosbarth Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ar daith i’r Unol Daleithiau. Hedfanodd y criw i Faes Awyr Rhyngwladol Dulles yn Washington DC lle arhoson nhw am dri diwrnod. Aethon nhw i ymweld â llawer o lefydd llywodraethol a chofgolofnau enwog megis y Tŷ Gwyn, Capitol Hill, yr amgueddfa Holocost, mynwent Arlington, Madamme Tussauds, yr amgueddfa awyr a gofod, Chinatown, cofgolofnau Lincoln, Washington, Jefferson, FDR yn ogystal â chofebau i ryfeloedd Fietnam, Yr Ail Ryfel Byd a Korea. Llongyfarchiadau mawr i Mr Price a Mr Thomas am lwyddo i redeg marathon llawn Washington tra’r oeddent i fod yn arolygu’r disgyblion ar y dydd Sul!!! Ar ôl tri diwrnod lawn hwyl, hanes a haul yn Washington, teithiodd y grŵp i’r gogledd tuag at Efrog Newydd.

Rocky ac Efrog Newydd

Wrth deithio i Efrog Newydd arhosodd y bysiau am gyfnod byr yn Philadelphia ger y ‘Rocky Steps’, sydd yn enwog iawn ers ffilmiau paffio Sylvester Stallone. Llwyddodd Mr Webb unwaith eto yn ras fawr yr athrawon. Bydd angen i Mr Steffan Phillips a Mr Wilding bwyta llai ar y daith nesaf er mwyn osgoi rhagor o embaras! Cawsom ‘sing song’ arbennig ar y bws gyda’r llyfrynnau canu a baratowyd cyn cyrraedd y gwesty moethus ynghanol Times Square.

Daeth nifer fawr iawn o uchafbwyntiau’r daith o Efrog Newydd. Rwy’n siŵr bydd pawb yn cofio’r diwrnod lle gerddon o amgylch Manhattan, cymryd criws mewn fferi o amgylch yr Hudson cyn mynd i Madison Square Garden i wylio’r New York Knicks yn chwarae pêl-fasged. Wn i ddim sut lwyddodd Mr Thomas i gael 96 o docynnau i bawb?! Ar ddiwedd y gêm aethon i ben yr Empire State Building a syllu ar olygfeydd anhygoel y ddinas a’r goleuadau ymhell yn y pellter. Da iawn Mr Dyfrig Jones am gynnal cymanfa ar y top. Mi wnâi byth anghofio’r olygfa wrth weld bron i 100 o bobl yn canu anthem Cymru ar bwynt uchaf Efrog Newydd! Hefyd, buon yn ymweld â Times Square ac adeilad y Cenhedloedd Unedig.

 

Uchafbwyntiau!!

Uchafbwynt nifer o ddisgyblion (arwahan i’r cyfnodau dibendraw yn siôpa!!!) oedd mynd i Broadway. Ar y noson olaf aethon i wylio’r sioe Americanaidd ‘Grease’-am sioe wych!

Uchafbwynt arall i nifer o bobl oedd y prydau bwyd enfawr a fwytawyd nosweithiau ar ôl nosweithiau. Aethon i sawl bwyty gwahanol yn ystod yr wythnos gan gynnwys bwyty unigryw ‘Bubba Gump’ - druan ar Mr Price yn gorfod gwisgo lan fel Forrest Gump trwy gydol y noson.

 

Profiad bythgofiadwy

Dyma’r math o daith sy’n aros yng nghof pobl am weddill eu hoes. Dyma’r daith Hanes fwyaf hwyliog erioed. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Mr Thomas am drefnu taith mor wych a medraf dal glywed ei ddywediad enwog - “mae bod yn hwyr yn non-negotiable”! Rwy’n sicr bod yr athrawon wedi dechrau cyfri’r dyddiau ar gyfer y daith nesaf yn 2010!

Adroddiad Hefina Williams

Blwyddyn 13