Cartref /Home

Newyddion / News

Pynciau / Subjects

 

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Llangrannog – cwrs blwyddyn 7

 Ar ddiwedd mis Hydref fe aeth dros 200 o ddisgyblion, athrawon a chweched dosbarth Ysgol Gyfun Cwm Rhymni i wersyll yr Urdd, Llangrannog yn Ne Orllewin Cymru.

 Wythnos Llangrannog oedd un o wythnosau gorau fy mywyd, - llawn hwyl a sbri! Fy hoff weithgaredd oedd y cwrs rhaffau, roedd gweld yr athrawon yn dringo fel mwnciod yn ddoniol iawn!

 Roedd disgyblion y chweched yn actio fel petai nhw i gyd nôl yn eu dosbarthiadau meithrin yn yr ysgolion gynradd ond fe wnaethon ni mwynhau eu cwmni yn fawr!

Roedd y Noson Lawen a drefnwyd yn arbennig, roedd gweld bechgyn y chweched wedi gwisgo i fyny fel merched yn ddoniol iawn ac yn enwedig eu gweld rhai yn personoli`r athrawon , Wel…dyle “Trinny a Susanna” wedi bod yno i weld gwisgoedd ffansi`r merched a’r bechgyn,ond o leia wnaethant ymdrech!!

 Mwynhaodd pawb Llangrannog, doedd neb moen gadael!

Ac bydd neb yn anghofio`r wythnos hynny - byth yn ei bywyd!

 Adroddiad Jemima Nicholas, blwyddyn 7