|
|
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | ||
GIG C2 yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Dydd Mawrth, Hydref 12fed fe gawson ni gyfle i gymryd rhan yng ngweithdy Radio Cymru C2. Dyma gyfle gwych i ni gael cyfle o gyflwyno a recordio rhaglen sy’n rhoi ‘blaenoriaeth i gerddoriaeth’! Fe gawsom ni ein rhannu i mewn i dri grŵp ble’r oeddem yn cystadlu wrth gyflwyno rhaglen radio. Roedd rhaid i ni hefyd gofio am y technegwyr a’r tîm rheoli, yn ogystal â dyfeisio aelodau dychmygol a band doniol a chawslyd, “Y Pedwar Curiad”! Chris Fussell, David Hodges a fi Geraint Huws oedd yn cyflwyno ac roedd y rhaglen yn cynnwys caneuon, jôcs, siart bop C2, gosip a chyfweliad â’r band. A geisiwch beth? Ein grŵp ni wnaeth ennill! Ond chwarae teg, roedd pob grŵp o safon. Felly fe gawsom ni digonedd o hwyl, ac rwy’n synnu pa mor hawdd oedd cyflwyno rhaglen radio wedi i ni baratoi am ddim ond tri chwarter awr. Yna wedi hynny i gyd, fe gawsom ni gig wefreiddiol gan fandiau enwog, ‘Y Poppys’ a ‘Ashokan’, wedi’u cyflwyno gan Daf ei hun. Hefyd fe gawsom ni ein rhannu i ddau grŵp i gystadlu yng nghwis C2. Yn anffodus roedd rhaid i mi wneud carioci, oedd braidd yn broblem wrth ystyried fy mod i’n methu pitchio’r nodau! Wel! Roedd hi’n ddiwrnod i’r brenin a gobeithio y caiff plant iau’r ysgol yr un cyfle ryw ddydd, a chofiwch wrando ar raglenni C2 bob nos ar Radio Cymru Edrychwch ar y lluniau ar wefan Radio Cymru ar y linc hwn.
Adroddiad gan Geraint Huws o flwyddyn 12
|
|
||