|
|
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | ||
GHANA GWYCHAr 25ain o Dachwedd, pan roedd pawb yn wlyb ac yn oer yng Nghwm Rhymni, teithiais i, Miss Lisa Williams a Mr Steffan Phillips, y Bwrsar i Ghana yn yr Affrig. Bwriad y daith o dan nawdd y Cyngor Prydeinig oedd ymweld â’r ysgol sydd wedi gefeillio gydag Ysgol Gyfun Cwm Rhymni sef Gowrie Secondary School yng Ngogledd y wlad ( ac i gael tipyn bach o haul ar yr un pryd!) Treulion ni gwpl o ddyddiau yn y Brifddinas, Accra a oedd yn ymddangos fel tref fach ar lan y môr yn hytrach na ddinas bwysig. Roedd hi’n boeth iawn - dros 35 gradd a phawb ar y penwythnos ar y traeth coed palmwydd, yn nofio, dawnsio reggae, chwarae pêl droed, marchogaeth a joio! Serch yr holl hapusrwydd, fe welon ni dlodi hefyd. Gwelon ni ddyn yn cerdded lawr y brif stryd yn gwisgo dim ond hen grys (ie, dim ond crys!), ugeiniau o bobl yn y nos yn cysgu tu fas ar y palmant brwnt yn agos at ei gilydd fel sardinau a channoedd o bobl o bob oedran (gan gynnwys plant) yn gwerthu pob math o nwyddau truenus. Ymlaen a ni wedyn i’r Gogledd i Bolgatanga ar siwrne bws erchyll 24 awr i gwrdd â’r Prifathro, y Staff a’r Disgyblion! Am groeso hyfryd! Roedd pawb eisiau siarad gyda ni- roedden ni’n teimlo fel brenhinoedd - yn enwog am y dydd! Mae’r ysgol allan yn y wlad gyda fferm estrys diddorol a llyn pert ond dydy eu cyfleusterau addysgiadol ddim yn dda. Mae’r athrawon ond yn defnyddio’r bwrdd du a darn o sialc a’r disgyblion yn ysgrifennu nodiadau yn eu llyfrau, dydd ar ôl dydd - diflas! Maen nhw’n gorfod talu i fynd i’r ysgol felly maent yn ymddwyn yn ardderchog. Pan aethon ni i ymweld â’r gwersi, roedd hanner y dosbarthiadau heb athro, a’r disgyblion yn cario ymlaen yn dawel heb unrhyw arall yn gofalu amdanynt! Os ydy rhywun yn gorfod cael ei gosbi, maen nhw’n palu twll o’r un uchder a hwy- felly os ych chi’n dal- newyddion drwg! Ydy’r disgybl yn cael ei adael yn y twll am byth? Na, mae’r ysgol yn llosgi sbwriel ynddo - ar ôl tynnu’r disgybl mas wrth gwrs!. Byddai Cwm Rhymni yn llawn tyllau erbyn hyn petai’n dilyn yr un system! Mae’r ysgol yn dechrau am 7.30am a chyn hynny, mae’r disgyblion ieuengaf yn gorfod ysgubo’r iard a’r ystafelloedd gan ddechrau am 5.30am - byddai gofalwyr Cwm Rhymni mas o waith! Maent yn canu’r anthem bob bore. Does dim dewis o fwyd yno, egwyl na chinio - egwyl ydy uwd llwyd gyda dŵr a chinio pan roedden ni yno oedd ffowlen guinea (a oedd yn rhedeg o gwmpas yr ysgol!) , ffa (nid Heinz!), sglodion yam (nid McCain!). Blasus iawn - gwell na brechdan! Mae’r disgyblion yn disgleirio mewn Pêl droed ac Actio. Mae hwn i gyd yn eu hamser sbâr gan nad oes gwersi diddorol fel Drama nac Addysg Gorfforol! “Gofal Anifeiliaid” a llawer o wersi Maths oedd ar yr amserlen pan roedden ni yno - byddai Adran Fathemateg Cwm Rhymni wedi bod yn y nefoedd fathemategol! Mae’r gerddoriaeth yn wych- hanner reggae gyda rhythmau Affricanaidd. A’r dawnsio FraFra lleol yn stompio gwyllt egniol ac anhygoel! Mae disgyblion Gowrie yn diolch i ddisgyblion Cwm Rhymni sydd wedi bod yn ysgrifennu llythyron atynt dros y misoedd diwethaf. Maent yn gyffrous i’w derbyn. Yn ogystal, mae disgyblion cynradd Ifor Bach a Trelyn yn mynd i efeillio gyda’r ysgol gynradd yn Gowrie. Ar ddiwedd Ionawr, fe fydd Prifathro Gowrie, Mr Didacus Afegra yn dod i Gwm Rhymni felly rhown groeso mawr iddo! Dydy e erioed wedi bod allan o Ghana o’r blaen felly fe fydd sicr yn brofiad iddo! Ar ddechrau Chwefror, fe fydd gennym arddangosfa ar Ghana ym mhrif fynedfa'r adeilad a fydd yn agored i gyfeillion yr ysgol. Ceir mwy o fanylion ar ôl y Nadolig. “MUDASI”- DIOLCH! Miss Lisa Williams Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
|
|
||