|
|
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | ||
|
Llongyfarchiadau mawr i Aaron Ramsey, disgybl blwyddyn 11 o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ger y Coed-Duon wrth iddo chwarae am y tro cyntaf i dîm cyntaf Caerdydd yn erbyn Hull City ar ddydd Sadwrn, Ebrill 28ain, 2006. Fe wnaeth y pêl-droediwr addawol o Gaerffili creu hanes yn y gêm wrth dorri record sydd wedi para ers 42 o flynyddoedd, sef y chwaraewr ifanca’ i gynrychioli’r clwb. Y person ifanca’ diwethaf i wisgo crys glas Caerdydd oedd rheolwr presennol Cymru John Toshack nôl yn 1965. Llwyddodd Aaron, bu’n 16 oed ar ddydd San Steffan eleni i ddiweddu’r record gan 113 o ddyddiau. Daeth Aaron i’r cae gyda phum munud yn weddill fel eilydd i asgellwr Cymru, Paul Parry. Collodd Caerdydd y gêm o gôl i ddim o flaen torf o 12, 421 ond fe wnaeth rheolwr Dave Jones cynnig sylwadau cadarnhaol iawn am y Cymro ifanc, “Mae Aaron Ramsey yn dalent fawr. Byddai wedi bod yn well petai wedi gwneud ei ymddangosiad cyntaf mewn tîm buddugol, ond roedd yn ddiwrnod arbennig iddo ac rwy’n falch iawn drosto. Mae ganddo ddyfodol disglair yma yng Nghaerdydd a rhaid i’r clwb yn awr edrych ar ei ôl.” Congratulations to Aaron Ramsey, a year 11 pupil at Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Blackwood who made his debut for Cardiff City on Saturday, April 28 th, against Hull City at Ninian Park. The promising young school pupil made history in the game by becoming the club’s youngest ever player. The previous holder of the record was current Welsh football boss John Toshack, back in 1965. Midfielder Ramsey from Caerphilly ended John Toshack's 42-year record by 113 days, with the youngster born on Boxing Day in 1990. Aaron made his debut with five minutes remaining in the 1-0 home defeat replacing the current Welsh international winger, Paul Parry in front of a crowd of 12, 421. At the end of the game Cardiff City manager Dave Jones spoke very highly of the Cwm Rhymni youngster, “I said before the game that I’d have to dip in to the kids and Aaron Ramsey is the best one at the moment. He’s the one showing everything we believe. He’s a great talent, it would have been nice for him to come on and be part of a winning team but it’s great for him, I’m really pleased. The boy has a great future here and what we’ve got to do now is take care of him.”
|
|
||