|
|
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | ||
|
Mae Aron Ramsey, sef disgybl 14 mlwydd oed ym mlwyddyn 10 yn gapten tîm dan 16 Cymru ac mae eisoes wedi ennill 5 cap. Mae’r chwaraewr sydd yn chwarae yng nghanol y cae hefyd yn gapten tîm dinas Caerdydd dan 16. Dechreuodd Aron chwarae pêl-droed yn ifanc fel bachgen wyth mlwydd oed i un o wahanol dimau yr Urdd ar fore Sadwrn ar gaeau Pontcanna yng Nghaerdydd. Tynnodd sylw rhai o swyddogion clwb pêl-droed Caerdydd yn syth ac ers hynny mae wedi bod yn gysylltiedig yn glos gyda Academi y clwb proffesiynol. Mae Aron wedi parhau i wneud argraff yn ystod ei ddatblygiad yn yr Academi a mae nawr yn gapten ar y tîm dan 16, Caerdydd a Chymru er ei fod flwyddyn yn iau na nifer o’i gyd-chwaraewyr. Ar fore Sadwrn gellid canfod Aron yn chwarae yn erbyn timau tebyg o glybiau enwog iawn fel West Ham United, Arsenal ac Aston Villa ar gaeau Trefforest, ger Caerffili. Caiff hefyd y cyfle i chwarae ar feysydd enwog y clybiau proffesiynol ac un fantais ynglŷn â’r teithio meddai yw’r ffaith ei fod yn colli ambell ddiwrnod ysgol! Yn amlwg felly uchelgais Aron ar hyn o bryd yw sicrhau cytundeb proffesiynol gyda chlwb Caerdydd. Roedd yn siomedig yn ddiwddar pan fu’n aelod o dîm Cymru a gollodd yn erbyn Lloegr ond ystyria cynrychioli ei wlad ac ennill ei gap cyntaf fel yr anrhydedd fwyaf yn ei yrfa bêl-droed mor belled. Sylweddola mai canran fechan o fechgyn ifanc sydd yn llwyddo i gyrraedd y brig felly canolbwyntia’n galed ar ei waith ysgol er mwyn llwyddo yn ei arholiadau TGAU haf nesaf cyn breuddwydio am unrhyw ddyheadau pêl-droed yn y dyfodol. Meddai Aron, “ Mae Mam a Dad sydd wedi fy nghefnogi mor dda dros y blynyddoedd hefyd yn sicrhau fy mod yn cadw fy nhraed ar y ddaear ac yn osgoi cael stwr gan yr athrawon yn yr ysgol am beidio â gwneud fy ngwaith cartref!” Yn hytrach na chymryd amser i orffwys dros fisoedd yr haf, mae Aron yn mwynhau cymryd rhan mewn nifer o gampau eraill. Llynedd bu’n aelod pwysig o dîm Pentathlon yr ysgol a ddaeth i’r brig mewn cystadleuaeth cenedlaethol yn Leckwith, Caerdydd a mae Aron hefyd yn aelod o un o dîmau seiclo mynydd ieunectid Cymru.
A promising footballer at Ysgol Gyfun Cwm Rhymni is busy combining his studies with an extremely busy footballing calendar. Aron Ramsey, a 14-year-old year 10 pupil, is the current captain of the Welsh under 16-football team and he has already won 5 caps. He is also the current captain of the Cardiff City under 16 side playing as a central mid-fielder. He began playing football at an early age and was spotted whilst playing for the Welsh speaking Urdd team as an eight year old by scouts from the Cardiff City Academy . Gaining a prestigious professional contract with the club is obviously a much heralded aspiration. He has continued to impress during his development under the watchful eyes of the coaching staff at Ninian Park and has graduated to captain despite being a year younger than many of his teammates. On Saturday mornings he is often to be seen on the fields of Treforest playing fields playing against boys of a similar age from the likes of West Ham United, Arsenal and Aston Villa. He thoroughly enjoys representing his country but was disappointed to lose to England recently. His feet are firmly on the ground and he is keen to attain good grades in his GCSE’s next summer before dreaming of any footballing aspirations. Aron commented, “ My dream would be to become a professional footballer but although I trust my own ability I also recognize that only a small proportion of youngsters currently at the Cardiff City academy will gain a pro contract, therefore I realize I must concentrate hard on my school work.” During the summer months Aron would be wise to relax and put his feet up but he also represents his country in other sporting fields. Last summer he was a member of the Ysgol Gyfun Cwm Rhymni year 9 team that won the National Pentathlon competition at Leckwith Athletics Stadium and he has also competed with the Welsh junior mountain-cycling team.
|
|
||