|
|
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | ||
Crest
Yn ystod tymor y Nadolig enillodd pedair o ddisgyblion gwobr efydd Crest yn Techniquest yng Nghaerdydd. Roedd rhaid i’r merched cyflwyno eu harbrawf ar fitamin C mewn diodydd a suddion ffrwythau. Fel enillwyr cystadleuaeth Cymru, fe aeth y ferched i Lundain i gynrychioli’r ysgol a Chymru yng nghystadleuaeth Crest Prydain. Lleolwyd y gystadleuaeth yn y Royal Society. Roedd yn brofiad ysgubol i’r merched ac fe wnaethant gystadlu’n frwd. Fe wnaethant gwrdd â nifer o wyddonwyr enwog yn y Royal society gan gynnwys yr athro Robert Winston.
|
|
||