Cartref /Home

Gwyddoniaeth / Science

Ffiseg / Physics

Pynciau / Subjects

 

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Betset

 

Ar yr wythfed o Chwefror fe aeth 12 bachgen o flwyddyn 9 i gystadlu yng nghystadleuaeth BETSET yn Sony, Pencoed. Roedd rhaid i’r bechgyn weithio mewn grwpiau o 4 i gwblhau 5 tasg benodol. Ar gyfer pob tasg fe roddwyd marciau a oedd yn arwain at enillwyr ar ddiwedd y dydd.

 

Roedd rhaid iddynt gynllunio ac adeiladu pont, “Go-Cart”, robot, roced a pheiriant a oedd yn gallu saethu peli tennis. Fe lwyddwyd y bechgyn i ennill yr ail a thrydedd wobr yn y gystadleuaeth.