|
|
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | ||
|
Addysg Grefyddol / Religious Education Wythnos Drawsgwricwlaidd yr Adran Addysg Grefyddol Rhwng Rhagfyr yr 8fed a'r 12fed cynhaliwyd wythnos drawsgwricwlaidd gan yr Adran Addysg Grefyddol. Bu 90 o ddisgyblion Blwyddyn 10 ynghlwm wrth amrywiaeth o weithgareddau yn ymwneud â thestunau a ddewiswyd ganddyn nhw. Roedd yna bump grwp a dyma'r testunau a ddewiswyd: Grwp 1 - Rhyw o dan oed
a beichiogrwydd ymhlith merched ifanc; Cyfrifoldeb pob grwp ydoedd i sicrhau bod eu harddangosfeydd a chyflwyniadau ar eu testunau dewisiedig yn barod erbyn diwedd yr wythnos - bu pob grwp yn gweithio fel busnes â phob aelod â swydd benodol. Roedd gan bob grwp blygell yn cynnwys amserlen, cyfarwyddiadau ac amrywiaeth o daflenni gwaith i'w cynorthwyo, ond bu'r gwaith a gyflawnwyd gan bob grwp yn waith eu hunain - prin oedd y cyfraniad a wnaethpwyd gan Athrawon! Un o brif nodau'r wythnos oedd cynllunio tuag at ddiwrnod elusen ar ôl y Nadolig. Trafodwyd syniadau gwych - a diddorol iawn - gan bob grwp ar sut i godi arian tuag at elusen o'u dewis. Fe fydd mwy o wybodaeth am y diwrnod arbennig hwn yn cael ei chyhoeddi yn y dyfodol agos! Bu'r wythnos yn llwyddiant mawr gyda llawer o uchafbwyntiau - bu ymweliad â'r Ysgol gan Hindw a Gweinidog yn sicr yn uchafbwynt! Ond yr hyn oedd mor wych am yr wythnos arbennig hon oedd gweld 90 o ddisgyblion Blwyddyn 10 yn cydweithio, yn tynnu ymlaen, yn gweithio mewn modd effeithiol a threfnus ac , yn hollbwysig, yn mwynhau eu profiadau. Hoffai'r Adran ddiolch yn fawr iawn I bawb gymerodd ran yn yr wythnos - brwdfrydedd a gwaith caled disgyblion a'r staff oedd ynghlwm wrth yr wythnos sicrhaodd ei bod yn llwyddiant ac yn fythgofiadwy! Os ydych am weld y gwaith a gyflawnwyd gan y grwpiau,
mae yna arddangosfa yn Llyfgell Idris Davies.
Lluniau'r wythnos
|
|
||