|
|
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | ||
|
Rhyw Dan Oed Dewisodd ein grwp ni'r thema losg a chyfoes sef rhyw dan oed. Roedden ni wedi dewis y pwnc yma oherwydd mae'n rhywbeth sy'n effeithio ar fywydau pob un ohonom, yn enwedig plant yn eu harddegau yng Nghymru. Mae 8 allan o 10 ferched a 7 allan o 10 fechgyn heb gael rhyw erbyn oedran 15, ond er hynny mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn cael cyfathrach rywiol yn hwyrach ymlaen yn eu harddegau. Yn 1996, roedd 56% o 905,000 ferched ifanc wedi cael plentyn, ond roedd 2/3 ohonynt yn ddamwain. Cafodd 30% erthyliadau. Yng Nghymru a Lloegr yn 2001 roedd 13103 o ferched 16 oed wedi mynd yn feichiog. 5610 o blant 15 mlwydd oed oedd wedi cael blant. Yn Lloegr, 1883 o ferched 14 mlwydd oed wnaeth cael babi. Bwriad dewis y pwnc yw oherwydd mae gan lawer o bobl ifanc barn a theimladau cryf ynglyn â rhyw. Pwrpas hir dymor y gwaith yw codi arian er mwyn helpu elusen. Barnado's yw'r elusen a chafodd ei dewis gan ein grwp ni am nifer o resymau. Cafodd Barnado's ei ddewis oherwydd gall ryw dan oed cael effeithiau distrywgar fel beichiogrwydd a phlant yn cael eu geni i rieni sydd ddim eisiau babanod. Canlyniad hyn yw plant amddifad. Ar ôl Nadolig rydym yn bwriadu cynnal diwrnod elusen i godi arian ar gyfer Barnado's sy'n helpu plant amddifad. Rydym yn ymwybodol o faint o arian sydd angen ar yr elusen er mwyn cario ymlaen i wella bywydau plant ar ôl dioddef mewn teuluoedd dirywiol. Mae Barnado's Cymru angen £9.5 miliwn y flwyddyn - hynny yw mwy na £750,000 y mis, neu £180,000 yr wythnos. Ym mhob £1 sy'n cael ei godi mae 88c yn mynd tuag at ofal plant. Mae Barnado's eisiau ehangu'r elusen a dyma sut mae ein grwp ni yn ceisio helpu.
Barn yr Eglwys Gristnogol 1. A ddylai pobl gael rhyw tu allan i briodas Ø rydym yn anghytuno gyda rhyw cyn priodas, oherwydd rhywbeth arbennig yw rhyw a dylid digwydd o fewn cyfamod priodasol yn unig. Ø nid ydym yn gweld rhyw tu allan i briodas fel rhywbeth drwg ond nid yw'n cael ei gynghori. "fe ddylai pob gweithred rywiol fod o fewn fframwaith priodas" (Eglwys Catholig) "os ydi dau oedolyn sydd heb briodi, ond eto yn caru ei gilydd yn angerddol, yna wedyn mae cyfrathrach rywiol yn fynegiant naturiol o'r cariad hwn" (Eglwys Anglicanaidd) 2. Ydy erthyliad yn dderbyniol Ø mae erthyliad yn annerbyniol oherwydd Duw yn unig all cymryd a rhoi bywyd. Ø mae bywyd yn sanctaidd felly, oni bai fod yna reswm dilys e.e bod y ferch wedi'i threisio, yna nid yw'r eglwys Gristnogol yn cytuno gyda erthyliad. " fe ddylai ffoetus gael ei barchu a'i amddiffyn,
ond eto i gyd dydy bywyd y ffoetus ddim yn berffaith gysegredig os ydy
o yn peryglu bywyd y fam" 3. A ydych chi'n caniatáu dulliau atal cenhedlu? Ø os oes rhaid i ddau person cael rhyw, eu bod yn teimlo fel rhan o berthynas sefydlog ond ddim eisiau dechrau teulu - yna mae'n dderbyniol i ddefnyddio dulliau atal cenhedlu. Ø nid ydym (yr eglwys annibynnol) yn condemnio defnyddio dulliau atal cenhedlu - rydym yn cynghori pobl os ydynt am gael rhyw yna dylid fod yn gyfrifol. Mae'r Eglwys Babyddol yn dysgu bod unrhyw ddull artiffisial o atal cenhedlu yn anghywir oherwydd pwrpas pennaf cyfathrach rywiol yw i gael plant. (Gwybodaeth o gyfweliad gyda'r gweinidog ac o lyfr Cristnogaeth gan Joe Jenkins)
Barn y grefydd Hindwaidd 1. A ddylai pobl gael rhyw tu allan i briodas? Ø nid yw rhyw cyn priodas yn cael ei cynghori, ond eto nid yw'n cael ei cosbi. Ø dydi'r crefydd ddim yn ddogmatig felly nid yw'n geidwadol. Ø os am gael rhyw cyn priodas dylid fod yn gyfrifol wrth wneud hynny, a gweithredu rhywfaint o hunan ddisgyblaeth. 2. Ydy erthyliad yn dderbyniol? Ø eto, nid yw'r grefydd yn geidwadol iawn, felly er nad yw'n derbyniol rydym yn caniatau erthyliad yn ddibynnol ar y sefyllfa. 3. A ydych chi'n caniatáu dulliau atal cenhedlu? Ø rydym yn caniatau dulliau atal cenhedlu ac yn
disgwyl i bobl fod yn ddigon gyfrifol os ydynt am gael rhyw i ddefnyddio
dulliau atal cenhedlu i osgoi ddamweiniau.
|
|
||