|
|
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | ||
|
Ty Hafan
Rydym ni wedi dewis y pwnc salwch plant. Mae salwch plant bach yng Nghymru yn andros o drist ond eto, yn rhywbeth yr ydym yn medru wneud llawer amdano. Mae Ty Hafan yn elusen sydd yn edrych ar ôl miloedd o blant ledled Cymru pob flwyddyn ac sydd yn helpu wneud eu blynyddoedd olaf ar y byd yn llawer hapusach! Rydym felly wedi dewis canolbwyntio ar salwch blant ac am waith Ty Hafan o gwmpas Cymru, ar ddarllen y safle hwn, dwi'n siwr y byddech yn cytuno fod yr elusen yma yn andros o bwysig. Gobeithiwn allwn wneud bywydau miloedd o blant andros o sâl yn well iddynt, fel y gallent farw yn hapus gyda chyfleusterau moethus. Ar y dudalen hon, byddwch yn gweld ein gwaith a wnaethom trwy'r wythnos. Un o uchafbwyntiau'r wythnos oedd pryd wnaethon ni danfon e-bost i Dy Hafan yn gofyn am help. Ysgrifenno'n nhw yn ôl yn cynnig gwybodaeth, cyngor a syniadau diri! Ar y Dydd Mawrth cawsom becyn oddi wrth Ty Hafan gyda llythyr, pamffledi a phecyn cynorthwyo. Roedd ymdrech ein grwp ni yn anhygoel. Gweithiodd pawb yn galed iawn ar y dasg ac rydym yn gobeithio y gallwn wneud gwahaniaeth mawr i blant sâl yng Nghymru. Fel dywedodd y Parch Gareth Rowlands " Ffydd heb weithredoedd- Marw yw" Mae'r wythnos yma wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn sawl
ffyrdd, rydym yn diolch i'r athrawon am y cynnig i wneud waith mor ddiddorol
â gwahanol. Yn wirioneddol, rydym wedi mwynhau y dasg hon. Diolch.
Hanes Ty Hafan Fy enw i yw Heledd a fi yw is-arweinydd y grwp, yn fyr, fi yw gaethwraig Bethan. Fy swydd i yw sicrhau bod yr ymaelodau eraill yn y grwp yn gwrando ar Bethan ac yn gwneud y gwaith yn dda i gyrraedd y safon uchel mae'r arweinydd yn disgwyl.
|
|
||