|
|
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | ||
|
Addysg Grefyddol / Religious Education Croeso i safwe'r Adran Addysg Grefyddol! Dysgir Addysg Grefyddol i bob disgybl yng Nghyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4. Caiff disgyblion gyfle i ddewis Astudiaethau Crefyddol fel pwnc opsiynol ar gyfer TGAU. Gellir hefyd ddilyn Astudiaethau Crefyddol fel cwrs Safon Uwch Gyfrannol a chwrs Safon Uwch. Ar hyd eu gyrfa ysgol, caiff disgyblion gyfle i astudio nodweddion, syniadau a chredoau chwech o brif grefyddau'r byd - Cristnogaeth, Iddewiaeth, Islam, Hindwaeth, Bwdhaeth a Siciaeth. Mae'r Adran yn trefnu gwibdeithiau i ddisgyblion gael ymweld â mannau addoli gwahanol grefyddau er mwyn cyfoethogi'r dysgu a'r addysgu. Ar hyn o bryd mae'r Adran yn trefnu wythnos drawsgwricwlaidd i ddisgyblion Blwyddyn 10. Fe fydd yr wythnos yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a llu o gyfleoedd i ddisgyblion. Mae'r Adran yn ymfalchio yn y safonau uchel mae'n eu hybu,
y canlyniadau da mae'n eu hennill a'r cyfleoedd addysgol gwerthfawr mae'n
eu cynnig. Yn ddiweddar mae'r Adran wedi ymddangos ar raglen deledu yn
hyrwyddo arferion da mewn llythrennedd, ac wedi cyfrannu at waith ACCAC
o godi safonau yn y pwnc.
|
|
||