Cartref /Home

Newyddion / News

Pynciau / Subjects

 

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Fflam y Cwm - Rhifyn 1 2003 / Edition 1 2003

Agoriad Swyddogol Llyfrgell Idris Davies Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Dyn Ar Dan

Seremoni Wobrwyo, 2003

Athrawes y Mis

Trip Drama i Lundain!

Yn argraffiad y tymor hwn, talwn sylw i agoriad swyddogol llyfrgell Idris Davies, yn ogystal a’r cynhwysion arferol gan gynnwys Athrawes y mis a llawer llawer mwy! Diolch yn fawr i Madame Richardson am ddatgelu ychydig o’i chyfrinachau i ni! Hoffem hefyd dweud diolch i bawb am eu cyfraniadau. Cofiwch os oes gennych unrhyw syniadau ynglyn â storiau i’w cynnwys neu unrhywbeth arall, dewch i weld Thomas Morris, Gareth Evans, Huw Cross neu Aneurin Brown eich tim golygyddol.
Felly does dim byd arall i’w ddweud heblaw am ddymuno pob lwc i bawb sy’n cystadlu yn Eisteddfod yr ysgol. Gobeithio bydd y copi hwn o Fflam y Cwm yn cadw chi’n gynnes dros yr wythnosau oer sydd i ddod.


top

Agoriad Swyddogol Llyfrgell Idris Davies Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Ar ddydd Gwener, Ionawr yr unfed ar ddeg ar hugain, fe agorwyd Llyfrgell Idris Davies yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Roedd hi’n ddiwrnod pwysig yn hanes yr ysgol, gan fod y llyfrgell yn ein hadeilad hardd newydd yn balas i gymharu â’r llyfrgell yn yr hen adeilad!
Yng ngwmni nifer o wahoddedigion, fe ddechreuwyd y seremoni gan ein prifathro Mr Mathias yn dangos llun o Idris Davies a ddyluniwyd gan Ioana Garner, disgybl o flwyddyn 8. Soniodd am bwysigrwydd Idris Davies fel bardd o’r ardal, a dyna pam dewiswyd enwi’r llyfrgell ar ei ôl.
Yna, fe alwodd Mr Mathias ar yr awdures a bardd blant Cymru2003, Menna Elfyn, i agor y llyfrgell yn swyddogol. Siaradodd hi am bwysigrwydd llyfrgell mewn ysgolion, a’i bod hi’n bwysig i ddisgyblion ddarllen i ymestyn eu haddysg, cyn agor y llyfrgell.
I gloi’r agoriad cafon ni eitemau gan ddisgyblion yr ysgol. Fe ddarllenodd Daniel O’Toole, disgybl blwyddyn 10 am fywyd Idris Davies, ac fe ddarllenodd Morgan Roberts o flwyddyn 9 un o’i gerddi, Cwm Rhymni. I orffen, fe actiodd disgyblion blwyddyn 8, Lowri Buckley, Michael Bell a Ben Price ran o lyfr Menna Elfyn, Rana Rebel.
Ar ôl yr agoriad fe gafodd pawb goffi a bisgedi a chyfle i gymdeithasu.
Dyma ddiwrnod nodedig arall yn hanes ein hysgol newydd.

Gan Angharad Lewis Blwyddyn 10

top

DYN AR DAN

Ar ddydd Mawrth y pedwerydd ar ddeg o Ionawr aeth blwyddyn saith i weld pantomeim o’r enw “Dyn ar Dân” yn Theatr y Glowyr Y Coed Duon. Yr oedd e’n banto arbennig o dda, yn seiliedig ar y chwedl leol, Guto Nyth Brân.

Cymeriadau y pantomeim oedd:-Dewi Dwl, Siân o’r Siop, Fflosi, Guto Nyth Brân a Prince.
Yn y stori mae Siân o’r Siop mewn cariad gyda Guto Nyth Brân. Guto Nyth Brân yw’r rhedwr cyflymaf yng Nghymru gyfan. Dyna pan mae Prince Y Sais yn ei herio. Mae Siân yn cynnig arian i Prince os y byddai’n curo Guto mewn ras, Guto yn erbyn Prince ar gefn ei geffyl, Black Velvet. Mae’n cynnig deg gini y bydd Guto’n ennill. Mae’n nhw’n rhedeg y ras ac mae Guto’n curo Prince ar ei geffyl. Yna mae Guto yn gofyn i Siân ei briodi.

Mae Siân yn curo Guto a ei gefn i’w longyfarch ond gan fod ei galon yn curo mor gyflym mae’n cwympo yn farw i’r llawr! Yma mae’r chwedl wreiddiol yn dod i ben ond yn nhraddodiad y panto mae Guto yn codi ac mae ddau yn priodi ac mae dathlu mawr!

Yn fy marn i dyma’r pantomeim gorau dwi erioed wedi ei weld. Roedd y cymeriadau’n ddoniol ac yn lliwgar a’r gerddoriaeth yn wych! Fe fwynheuodd pob un yn fawr iawn! Diolch i Mr Davies Drama am drefnu’r daith.

gan Emma Williams 7N

top

Seremoni Wobrwyo, 2003

Ar y bumed o Chwefror, 2003, cynhelir Seremoni Wobrwyo, Cymdeithas Chwaraeon Ysgolion Caerffili, (CChYC). Pwrpas y noson oedd i ddathlu cyflawniadau disgyblion oddi mewn Fwrdeistref Sirol Caerffili sydd wedi cyflawni anrhydeddau rhyngwladol yn ystod y flwyddyn academaidd 2001/2002. Roedd timau ysgolion a oedd yn llwyddiannus mewn cystadleuthau yn cael eu anrhydeddu hefyd. Am hanner awr wedi bump dechreuodd y Seremoni gyda Bev Smith, Meistr y Defodau, yn gyflwyno'r noson. Ddilynodd croeso swyddogol David Hopkins, sef cyfarwyddwr Addysg Hamdden.
Roedd neuadd Lewis i Ferched dan ei sang, gan edrych ymlaen i'r gwobrwyon cael eu gyflwyno i'r disgyblion enniliedig a oedd yn aros yn amyneddgar iawn. Roedd llais dwfn David Hopkins yn diasbedain trwy'r dorf wrt iddo llongyfarchennillwyr y gwobrwyon, eu rhieni a'r holl athrawon a oedd wedi wedi weithio cyn galeted a charreg trwy gydol y flwyddyn.
Fel y flynyddoedd blaenorol, roedd disgyblion Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn denu sylw y gynydlleidfa oherwydd eu taclusrwydd. Wrth iddynt derbyn eu gwobrwyon ar y llwyfan, roedd pob disgybl Cwm Rhymni yn gwisgo eu gwisg ysgol cywir gan edrych yn urddasol, trawiadol, ond yn bwysicach byth, yn addas ar gyfer yr achlysur pwysig hwn.
Tua hanner ffordd trwy'r Seremoni, cynhelir Cwestiynau Chwaraeon. Roedd y gynydlleidfa wrth eu bodd pan groeshawyd eu gwesteion arbennig, Bev Smith a'r ser byd chwaraeon. Un ohonynt oedd pel-droedwr poblogaidd iawn ar yr adeg yma yn Ne Cymru, sef...Robert Earnshaw. Wrt i Bev Smith gyhoeddi e', aeth y gwesteion yn wallgof. Bu llygaid bron pob merch serennu gan weld ei gorff gyhyrog cerdded ar lan y llwyfan. Roedd y swn yn byddarol gan dreiddio trwy'r cynydlleidfa. Ar ol i'r chwaraewyr curo yr athrawon yn llwyr, ail- ddechreuodd wobrwyo'r timau llwydduiannus Ysgolion Caerffili.
Ennillodd Ysgol Gyfun Cwm Rhymni tair ar ddeg gwobr i gyd, sy'n cynnwys gwobrwyon rhyngwladol, enillwyr achlysuron, pencampwriaeth Tenis a timau Cynrychioladol 2001/2002, ar gyfer y Sir, yn Ludwisburg, Yr Almaen. Allan o'r tair ar ddeg gwobr ennillodd yr ysgol, bu saith ohonynt yn gwobrwyon rhyngwladol, sef Wyn Roberts (athletau), Nicole a Craig Walkley (badminton), Bethan a Nia Dainton (trawsgwlad), Afan Humphries (trawsgwlad) aTerry Heron (karate). Roedd pump gwobr am ennillwyr achlysuron, dros amrywiad o chwaraeon. Er enghraifft, athletau, pel-droed, rygbi a tenis.
Roedd y noson unwaith eto yn llwyddiant mawr ac rwyf yn siwr bod pawb wedi mwynhau. Roedd e'n glir i weld bod Ysgol Gyfun Cwm Rhymni wedi wneud yn arbennig o dda, dros y flwyddyn dwethaf, er gwaethaf y cyfleusterau yn yr hen ysgol. Nawr, gyda'r ysgol newydd sbon a'r cyfleusterau modern mae'n siwr y bydd yr Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn mynd o nerth i nerth ac yn llwyddo gyda'r talent naturiol sydd gan y ddisgyblion...

gan Carys Williams Bl 10

top

Athrawes y Mis

Madame Richardson


1.Ble cawsoch chi eich geni a’ch magu?
Cefais i ngeni yn Llwyn –y-Pia a fy magu yn
Aberllechau yn y Rhondda

2. I ba ysgol a prifysgol aethoch chi ?
Es i’r ysgol yn Rhydfelen a prifysgol Aberystwyth.

3. Pryd dechreuoch chi siarad Ffrangeg?
Dechreuais i siarad Ffrangeg pan oeddwn ym mlwyddyn saith.

4. Pam dewisoch chi y pwnc Ffrangeg i ddysgu?
Dewisais y pwnc oherwydd rwy’n mwynhau siarad a dysgu am ieithoedd tramor.

5. Pe na fyddech yn athrawes Ffrangeg pa bwnc arall hoffech chi
ddysgu ? A pam ?
Heblaw am Ffrageg hoffwn ddysgu Hanes , oherwydd mae’n ddiddorol dysgu am y gorffennol .


6. Ydych chi wedi bod i Ffrainc i fyw o’r blaen ?
Ydw , gwnes i fyw yn Nantes am pedwar mis fel rhan o gwrs prifysgol. Gweithiais yno i gwmni gwyliau o’r enw …………

7. Pa wledydd eraill yr ydych wedi ymweld â?
Rwyf wedi bod i Sbaen , Canada , Gwlad Belg a Prague.

8. Beth yw eich hoff fwyd ?
Foie gras , sef pate

9. Pe na fyddech yn athrawes, pa swydd arall hoffech chi ei wneud ?
Hoffwn weithio i gwmni gwyliau tramor .

10. Pa ieithoedd eraill yr ydych yn siarad ?
Sbaeneg , ychydig bach o Eidaleg a Portegiaidd.

11. Pam yr ydych yn hoffi eich swydd ?
Oherwydd rwy’n mwynhau siarad ieithoedd eraill .

Cwestiynau gan Michael Bell
argraffwyd gan Gareth Davies

top

Trip Drama i Lundain!

Trip a hanner os ga i ddweud, cyfle i weld dwy ddrama hollol wahanol a cyfle i famteisio ar siopiau’r brifddindas, a manteisio wnaeth disgyblion Cwm Rhymni yn bendant!! Gadawodd y bws Ysgol Gyfun Cwm Rhymni fore Dydd Gwener yn llawn disgyblion cyffrous o flwyddyn 10,11 a’r chweched dosbarth. Dechrau penwythnos o hwyl, sbri ac wrth gwrs dwy ddrama yng nghanol y cyfan! Buon ni’n teithio am yr rhan fwyaf o’r dydd nes cyrraedd Windsor am hoe fach ar ôl yr holl deithio. Y cyfle cyntaf i weld Llundain a chael blas ar y dewis eang o siopiau oedd yna. Eryn i’r dwy awr a hanner yna ddod i en roedd rhai wedi cael hen ddigon o flas ar siopa yn Llundain. Ymlaen â ni wedyn i deithio tuag at Wembley er mwyn gadael ein bagiau yn y gwesty cyn mynd i’r theatr yn y nos. Awr yn unig buon ni yn y gwesty cnd mynd yn ôl i ganol Llundain i gael bwyd yn Mc Donalds ac yna i weld drama gynta’r benwythnos “Women In Black”. Drama frawychus a chyffrous wnaeth godi ofn ar y rhan fwyaf o bobl rhaid dweud-hyd yn oed yr athrawon er eu bod nhw’n gwrthod cyfaddef hynny, wrth gwrs!!
Roedd Tensiwn aruthrol n y theatr ar adegau ac roedd pawb yn aros yn ddisgwylgar i rhywbeth ddigwydd..... Ac yn ystod hwn i gyd roedd pawb yn cymryd sylw manwl o’r goleuo,llwyfannu, gwisg a cholur mae’n siwr!!! Unwaith i’r perfformiad orffen yn ôl a â ni i’r gwesty am noson dawel fach o flaen y teledu!!

Dechrau yn gynnar y bore canlynol- pawb i fod ar y ws am 8 o’r gloch er mwyn dechrau ar ein taith o gwmpas Llundain ac yna dechrau am gartref. Diwrnod llawn dop oedd dydd Sadwrn. Yn syth ar ôl brecwast aethon ni i ‘Covent Garden’,- profiad bendigedig oedd gweld y prysurdeb o gwmpas y farchnad. Nid oedd yn bosib mynd i unrhywle heb weld meimiau a phobl yn Aactio a diddanu ar y stryd. Yn wir roedd hi’n bedair awr o gerdded,siopa,bwyta a rhagor o gerdded â chyfarfod â’r athrawon yng nganol y cwbwl. Ymlaen a ni ar ôl hyn ar y ws i Trafalgar Square i weld ‘Grease Lightning’ ond cyn y perfformiad hanner awr i weld ardaloedd o gwmpas ‘Big Ben’ ‘Palas Buckingham’ a nifer o lefydd eraill ar hyd y ffordd. A chyn bo hir amser i weld y perfformiad, roedd gweld Grease yn gwbwl wahanol i’r ddrama’r noson gynt. Fel gwyr pawb mae Grease yn llawn canu a rhamant. Wnaeth pawb fwynhau’r perfformiad a llawer llai o densiwn na’r noson cynt.
Penwythnos i’w gofio, penwythnos pan aeth Cwm Rhymni ati i lenwi strydoedd Llundain. Penwythnos llawn baclhder yn yr iaith Gymraeg a’n cenedl. Hoffwn ddiolch ar ran pawb mynychodd y trip i Mr Davies am drefni’r cwbwl, Miss Davies, Miss Williams, a Mr Jones am ddod gyda ni. Pobl ddewr iawn rhaid dweud!!

gan Aneurin Brown

Agoriad Swyddogol Llyfrgell Idris Davies Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

DYN AR DAN

Seremoni Wobrwyo, 2003

Athrawes y Mis

Trip Drama i Lundain!

top