|
|
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | ||
Sialens Rasio Ceir F1Bu'r adran Dylunio a Thechnoleg yn brysur yn paratoi disgyblion Bl12 i gystadlu mewn cystadleuaeth rasio ceir F1. Pwrpas y prosiect oedd meithrin sgiliau gweithio mewn tîm i gynhyrchu model o gar rasio F1 yn ogystal â'r deunydd hyrwyddo sy'n ymwneud â rasio F1 go iawn. Defnyddiwyd rhaglen CAD i ddylunio model o gar cyn ei dorri allan o bren Balsa. Defnyddiwyd chwistrellau lliw i orffen y car cyn rhoi logo pob noddwr a'r tîm arno.
Rasiwyd y ceir ar drac 30 metr o hyd. Gweler y fideo hwn o'r car yn rasio ar y trac. Roedd hi'n ddiwrnod llwyddiannus iawn gyda phob aelod o'r tîm yn cyfrannu at lwyddiant y gweithgaredd.
|
|
||