| Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | |||
|
Cymraeg / Welsh
Taith i Wlad y Belg / School visit to Belgium Dysgir y Gymraeg yn iaith gyntaf i bob disgybl yn CA3 a CA4 er mai o gartrefi di-Gymraeg y daw rhyw 98% o'n disgyblion. Cyflwynir y disgyblion ar gyfer arholiadau TASau, TGAU Iaith a Llenyddiaeth a Lefel Mynediad Cymraeg CBAC. Cynigir y pwnc fel cwrs safon Uwch Gyfrannol ac Uwch 2 yn y Chweched Dosbarth, ac mae cefnogaeth ieithyddol ar gael ar gyfer y disgyblion hynny nad ydynt yn dewis astudio'r Gymraeg yn y chweched dosbarth. Cymraeg yw cyfrwng dysgu pob pwnc yn yr ysgol -ac eithrio'r Saesneg- ac mae i'r adran Gymraeg le allweddol o ran y Gymraeg ar draws y cwricwlwm. Cysylltir pob adran ag aelod o'r adran Gymraeg a chydlynir y cyfan gan y pennaeth adran. (Cynhwysir enghreifftiau o'r gwaith a wneir gan yr ysgol ar fideo ACCAC/BBC Anelu at Ragoriaeth:Codi safonau mewn Llythrennedd) Mae'r adran Saesneg yn ogystal, fel yr Adran Ieithoedd Tramor Modern, yn cydweithio â'r Adran Gymraeg o ran datblygu Llythrennedd Triphlyg. Saith aelod sydd yn yr adran ac mae gan nifer ohonynt gyfrifoldebau ysgol gyfan megis monitro cynnydd a chodi safonau, cydlynu Cymreictod, cydlynu Llyfrgell Idris Davies. Mae pennaeth yr adran ddrama hefyd yn aelod o adran y Gymraeg. Cyflwynir ABCh gan aelodau'r adran ddrama i flynyddoedd 7 ac 8 a'r adran Gymraeg i 9 a 10. Atgyfnerthir iaith ar draws y cwricwlwm gan hyn oll. Chwery aelodau'r adran ran amlwg mewn gweithgareddau
allgyrsiol niferus megis Cwrs Llangrannog, Taith
Hedd Wyn, ymweliadau â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, trefnu
ymweliadau gan yr heddlu a'r nyrs, mynd i weld ffilimau/dramâu
Cymraeg, mynd â disgylion i glywed siaradwyr, cystadlaethau'r
Urdd, siarad cyhoeddus, perfformiadau cyhoeddus, ymweliadau gan feirdd
megis Menna Elfyn a Bardd Plant Cymru, a llunio adroddiadau a golygu
papur yr ysgol Fflam
y Cwm.
|
|
||