| Ysgol Gyfun Cwm Rhymni | |||
|
Cerddoriaeth / Music GWYBODAETH AM WERSI OFFERYNNOL
Ffliwt, Clarinet, Sacsoffon, Obo, Baswn,
Trwmpet, Trombon, Cornet, Cyrn, Fiolin, Fiola, Cello, Bas Dwbl, Telyn,
Gitar a Drymiau Mae gan yr ysgol rhai offerynnau i ddisgyblion
eu benthyg. Mae athrawon teithiol yn cynnal gwersi yn ystod amser gwersi. Mae modd ymuno mewn nifer o grwpiau offerynnol
yn yr ysgol: Grwp Chwythbrennau, Grwp Pres, Llinynnau
a Cherddorfa. Yn ogystal mae modd ymuno gyda grwpiau offerynnol
Sir Caerffili a chreu grwpiau mwy amrywiol yn yr ysgol e.e bandiau Roc. Mae nifer fawr o bobl ifanc yn llwyddo a
chael hwyl wrth greu cerddoriaeth, trwy eistedd arholiadau ar ei offeryn,
yn ogystal a dilyn cyrsiau Cerddoriaeth TGAU, AS a Lefel A. Os ydych am ddysgu offeryn a chael gwersi
yn yr ysgol, dyma beth sy'n rhaid i chi wneud
..
2. Addo i'ch hunan y gwnewch chi chwilio
amser i ymarfer ychydig pob nos. 3. Dangos i'r athrawes gerdd eich bod yn
medru bihafio ac yn gweithio'n dda mewn gwersi dosbath. 4. Os oes lle, mi gewch gyfle i ddechrau
dysgu. 5. Fe gewch eich cyflwyno i'r athro offerynnol
a fydd yn eich gosod ar amserlen wythnosol - gwers tua 15/20 munud ar
yr un diwrnod pob wythnos OND ar amser gwahanol pob, wythnos, i sicrhau
na fyddwch yn colli'r un rhan o bob gwers. 6. Gadewch yr offeryn yn yr ystafell ymarfer
perthnasol ar ddiwrnod eich gwers a chofiwch ei gymryd adref yr un noson
- peidiwch a'i adael yn yr ysgol dros nos. 7. Cofiwch ddod a'r offeryn yr wythnos ganlynol
a'i adael yn yr un ystafell ymarfer ar gyfer eich gwers. 8. Mae'n rhaid talu am y gwersi ymlaen llaw
(£4 y wers). Ar ol 30 o wersi, mi gewch y gweddill am ddim. 9. Mi fydd 2 neu 3 ohonoch yn cael gwersi
ar yr un pryd i ddechrau, a bydwch yn medru chwerthin ar gamgymeriadau
eraill yn ogystal a rhai'ch hunan!! 10. Mwynhewch; ymarferwch; fe ddaw llwyddiant. |
|
||