Cartref / Home

Pynciau / Subjects

Cerdd / Music

Prosiect WNO

Cerdd TGAU / GCSE Music

Cerdd UG/AS Music

Technoleg Cerddoriaeth AS ac A / Music Technology AS & A

Gweithgareddau'r adran / Department's activities

Cyfansoddwyr enwog / Famous Composers

Gwersi offerynnol / Instrument lessons

Singathon 2003

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Cerddoriaeth / Music

GEIRFA CERDDOROL - HEB FOD MEWN TREFN

ACCELERANDO Cyflymu

ADAGIO Araf, ond dim mor araf a largo

ALEATORIG Cerddoriaeth siawns

ALLEGRETTO Eithaf cyflym ond dim mor gyflym ac allegro

ALLEGRO Bywiog a chyflym

ALLEMANDE Symudiad dawns o'r gyfres glasurol yn 4/4; amseriad
cymhedrol

ANDANTE Gweddol araf

ALTO Llais isel menyw, ail linell cerddoriaeth corawl mewn
pedwar llais - yn is na'r Soprano ond yn uwch na'r
Tenor

ARIA Unawd lleisiol yn y ffurf teiran, fel arfer mewn opera.
Mae operau'r 17G a 18G wedi eu cynllunio gyda aria
yn dilyn adroddgan

ARCO Chwarae gyda bwa (fiolin, fiola, cello, bas dwbl, ar ol
adran pizzicato)

DI-GYWAIR Cerddoriaeth modern heb ei selio ar gywair

BAS Llais isaf dyn, y linell isaf mewn cerddoriaeth corawl
mewn 4 llais- yn is na'r tenor

Y DRYSAWD Llinell fas gyda ffigyrau; cello ac allweddell, yr
harpsicord fel arfer. Yn gysylltiedig a chyfnod y
Baroc

FFURF DWYRAN Darn yn cynnwys dwy rhan. Ateb i'r cyntaf yw'r ail.
newid cywair yn y canol ac yna symud nol i'r cywair
cartref

BLWS Arddull gerddorol o America, yn araf ac yn arddangos
teimladau trist. Llawer o gerddoriaeth pop wedi ei
selio ar ddilyniant cordiau a ddefnyddir yn y blws

BOURREE Dawns Ffrengig yn 2/4, i'w gweld yn aml mewn
Cyfresi Baroc

CANTATA Cyfanwaith ar gyfer cor, unawdydd, neu'r ddau, gyda
cyfeiliant cerddorfa. Cerddoriaeth eglwysig fel arfer

SIAMBR Cerddoriaeth ar gyfer dau neu fwy o offerynnau (dim
mwy nac wyth) ble mae pob offeryn yn chwarae ei
rhan ei hun.

GRADDFA Graddfa ble mae'r bwlch yn hanner ton rhwng pob
GROMATIG nodyn

CORWS O fewn opera, naill ai'r cor neu'r gerddoriaeth a genir
gan y cor. Hefyd rhan o gan a ailadroddir ar ol pennill

CLASUROL Weithiau y term am gerddoriaeth seriws h.y.
Cerddoriaeth y gorllewin o 1550 ymlaen, heb gyfri
Pop, Jazz a Gwerin. Yn hanes cerddoriaeth, cyfnod
18C pryd roedd arddull a ffurf yn bwysicach na
mynegiant

CODA Adran fer ar ddiwedd darn er mwyn cael diweddglo
boddhaol

CONCERTO Cyfanwaith mawr, mewn tri symudiad - cyflym, araf,
cyflym - ar gyfer cerddorfa ac unawdydd.

CONCERTO Cerddoriaeth cerddorfaol ble rhennir y gerddorfa i
GROSSO ddwy rhan - adran fach o offerynnau a gweddill y
gerddorfa

GWRTHBWYNT Cerddoriaeth mwn dwy neu fwy rhan, ble mae pob
rhan ac alaw, a phob un yn gweithio gyda'r harmoni
Ceir llawer o efelychiant, ac amrywiadau.

CANU GWLAD Cerddoriaeth gwerin Americanaidd (baledi, caneuon
y cowboi, cerddoriaeth crefyddol, a chaneuon
gwaith). Cyfeiliant llinynol; roc a rol yn datblygu
ohono

COURANTE Dawns a oedd yn symudiad o fewn y gyfres clasurol,
amseriad 3.

CRESCENDO Cryfhau

DA CAPO neu D.C. O'r dechrau, ailadrodd rhan A gydag addurniadau,
ysgrifennwyd uwchben yr erwydd

DAL SEGNO O'r arwydd $. Ailadroddir yr adran hyd fine, neu bar
dwbl gydag arwydd aros

DATBLYGIAD Adran ganol darn o fewn y ffurf sonata

DIMINUENDO Tawelu

LLYWYDD 5umed nodyn y raddfa. Adeiladir cord y llywydd (V) ar
bumed nodyn unrhyw graddfa

DEUAWD Darn ar gyfer dau berfformiwr

ELECTRONIG Cerddoriaeth wedi ei greu gan offerynau electroneg
Neu trin synnau offferynau confensiynol mewn ffordd
electrig. Ricordwyd offerynnau ar dap ac yna newid y
tap. Y synseiddydd yw'r prif offeryn electronig.

ATGAN Naill ai adran o fewn rondo sydd i'w glywed rhwng
datganiadau y brif thema, neu adrannau o fewn ffiwg
sy'n cysylltu thema'r ffiwg

DATGANIAD Yr adran gyntaf o fewn y ffurf sonata

F uchel

Ff uchel iawn

Fz yn uchel, yn sydyn

Fine gair Eidaleg am ddiwedd darn

FFIWG Arddull cymhleth o ysgrifennu wrthbwyntiol sy'n
sy'n dilyn reholau cymhleth am cydbwysedd pob rhan
lleisiol neu offerynol. Y gwaith enwocaf yw
Preliwdiau a Ffiwgiau gan J. S. Bach

GAVOTTE Dawns Ffrengig o fewn cyfres Baroc, 2/4 neu 4/4 yn
dechrau ar 3ydd curiad y bar

GIGUE Dawns Seisnig, symudiad olaf y Gyfres Baroc yn y
Ffurf Dwyran, yn llawn o ffigyrau triphlyg

GRAVE yn araf, ac yn ddifrifol

DILYNIANT Dilyniant o gordiau
HARMONIG

BYRFYFYRIO Perfformio heb nodiant, cyfansoddi o deimlad

LARGO yn urddasol, araf iawn

NODYN ARWEINIOL 7fed nodyn y raddfa

LEGATO Chwarae'n esmwyth; cyferbynnu a staccato.

LEITMOTIV Alaw fyr a ddefnyddir i ddisgrifio cymeriad neu
ddigwyddiad, fel arfer o fewn opera neu gerddoriaeth
Rhamantaidd. Pril gyfansodddwyr: Berlioz, Liszt a
Wagner

LENTO Araf iawn, ond nid mor araf a largo

LIED Can sy'n disgrifio caneuon Almaeneg yr 19C, yn arbennig
Schubert a Brahms

Mf yn weddol gryf

Mp yn weddol dawel

MADRIGAL Rhangan fer seciwlar yn boblogaidd yn Lloegr yn y 16g
a'r 17G. Di-gyfeiliant.

OFFEREN Gwasanaeth a ddefnyddir yn rheolaidd o fewn yr Eglwys
Gatholig. Rhennir yr offern i 6 rhan ac fe'i gosodir ar
gyfer cor (Dadeni) neu Cor ac Unawdwyr.

MEIDON 3ydd nodyn y raddfa

MINIWET A Dawns 16C o Ffrainc, a gyplyswyd, yn yr 18G, gyda'r
THRIO trio. Roedd y dau ddarn o fewn y ffurf dwyran.
Ailadroddir y ddau darn, a cheir ailadroddiad yr
Agoriad yn yr ail adran. Clywir y miniwet am yr ail
dro ar ol y trio. Mae'r holl symudiad felly o fewn y
Ffurf teiran. Roedd Mozart a Haydn yn hoff iawn o
ddefnyddio'r symudiad yma fel 3ydd symudiad o fewn
Symffoni, pedwarawd llinynol, neu sonata.

MODDAU System o raddfeydd a ddefnyddir cyn y 17C, wedi ei selio
bellach ar nodau gwyn y piano.

TRAWSGYWEIRIO Newid o un cywair i'r llall o fewn darn

MODERATO yn gymhedrol

OFFEREN Cyfansoddiad crefyddol lleisiol. Cyfansoddiad pwysig
iawn yn hanes cerddoriaeth

SYMUDIAD Rhan o gyfanwaith megis symffoni, sonata, neu concerto.
Fe rhennir symffoni, fel esiampl, i 4 adran. Mae pob adran
yn symudiad.

DRAMA GERDD Term a ddefnyddir gan Wagner i ddisgrifio ei brif weithiau.

OPUS Gair Lladin sy'n golygu Gwaith. Ar ol i gyfansoddwr
ysgrifennu nifer mae'n hawdd eu rhifo

ORATORIO Cyfanwaith gydag unawdwyr lleisiol, cor, a cherddorfa
Wedi ei selio ar thema crefyddol, heb unrhyw symudiadau.

AGORAWD Naill ai darn ar gyfer cerddorfa o flaen oratorio neu opera,
neu gwaith cerddorfaol, wedi ei ysgrifennu ar gyfer cyngerdd
e.e Wagner, Fliegende Hollander (opera), neu Mendelssohn
Fingal's Cave (cyngerdd)

OPERA Cyfanwaith dramatig ble mae'r geiriau bron i gyd yn cael eu
canu, a'r cantorion hefyd yn actio ar y llwyfan, gyda
chyfeiliant cerddorfaol. Mae'r prif gyfansoddwyr yn
cynnwys Mozart, Wagner a Verdi, Roedd gwell gan Wagner
ddisgrifio eu gyfansoddiadau fel dramau cerdd

P Tawel

Pp tawel iawn

DIODDEFAINT Gosodiad cerddorol o Stori'r Pasg

PIANO Gair byr am yr allweddell, y pianoforte, sy'n medru chwarae
yn gryf neu tawel

PIU MOSSO Yn gyflymach

PIZZICATO Tynnu'r llinyn. Ar gyfer cerddoriaeth llinynol yn unig

SIANT Math cynnar o gerddoriaeth eglwysig ble ceir un llinell
melodig heb gyfeiliant. Roedd rhythmau'r siant yn
adlewyrchu rhythmau'r siarad, heb curiad nac amsernod

PRELIWD Agoriad

PRESTO Yn gyflym iawn

CERDDORIAETH Cerddoriaeth a gyfansoddwyd er mwyn mynegu stori
RHAGLEN arbennig i'r gwrandawr (e.e Fingal's Cave, neu Berlioz's
Symphonie Fantastique)

PEDWARAWD Darn ar gyfer 4 llais neu offeryn, neu'r grwp sy'n perfformio.
Ceir 2 fiolin, 1 fiola, ac 1 cello mewn pedwarawd llinynol

PUMAWD Darn ar gyfer 5 llais neu offeryn

RALLENTANDO Arafu


AILDDANGOSIAD Trydydd adran darn yn y ffurf sonata

ADRODDGAN Darn mewn opera neu oratorio sy'n cyplysu'r aria a'r corws
Cyfle i ddisgrifio'r stori yw'r adroddgan

REQUIEM Gosodiad cerddorol o'r Offeren i'r Meirw

RHAMANTAIDD Term i ddisgrifio cerddoriaeth o'r 19C wedi ei gyfansoddi
gan feistri fel Schubert, Brahms, Chopin, Mendelssohn,
Liszt, Schumann, a Tchaikovsky

RONDO Darn o gerddoriaeth wedi ei drefnu:
1. Thema
2. Atgan
3. Thema (ailadrodd 1)
4. Atgan
5. Thema (ailadrodd 1)
6. Coda

Mae cyfansoddwr yn medru cyfansoddi cymaint o atganau a
ddymuna, ond mae'n rhaid i bob un fod yn wahanol.

RHYTHM A BLWS Math o gerddoriaeth sy'n cyfuno elfennau o blws a jazz

Sf sforzando - rhoi acen sydyn ar nodyn

SARABANDE Symudiad allan o gyfres Baroc yn y ffurf dwyran, yn 3/4

SCHERZANDO Ysgafn a chyflym

SCHERZO Darn ysgafn, cyflym a gymerodd drosodd o'r miniwet
fel 3ydd symudiad o fewn symffoniau

SEPTET Darn wedi ei gyfansoddi ar gyfer 7 llais neu offeryn, neu'r
grwp sy'n ei berfformio

CYFANSODDIAD Math o gyfansoddiad di-gywair wedi ei selio ar rhes o 12
RES nodyn gwahanol. Ymchwil i berthynas y gwahanol nodau
yw'r darn. Medrir chwarae'r rhes mewn 4 gwahanol ffordd,
a dechrau ar unrhyw nodyn o'r raddfa gromatig.
Defnyddiwyd y ffurf gyntaf gan Schonberg ar ddechrau'r
ganrif olaf.

SEXTET Darn wedi ei gyfansoddi ar gyfer 6 llais neu offeryn, neu'r
grwp sy'n ei berfformio

SONATA Darn ar gyfer un offeryn, fel arfer mewn tri neu bedwar
symudiad. Ysgrifennodd Beethoven 32 sonata i'r piano.


FFURF SONATA Y ffurf mae symudiad cyntaf sonata, symffoni neu
bedwarawd llinynol yn ei ddefnyddio. Weithiau fe'i elwir
yn ffurf symudiad cyntaf. Ceir yr adrannau canlynol:
1. Dangosiad (yn cynnwys prif syniadau'r darn) wedi eu
Cyflwyno mewn dau gywair cyferbyniol
2. Codetta (yn gorffen y Dangosiad)
3. Datblygiad (ble datblygir rhai syniadau)
4. Ailddangosiad (sy'n cynnwys llawer o'r dangosiad, ond i gyd yn yr un cywair
5. Coda

CYLCH O Casgliad o ganeuon wedi eu cyplysu trwy stori, neu syniad
GANEUON cyffredin. Prif gyfansoddwyr yn cynnwys Schubert a
Schumann

SOPRANO Llais uchel menyw, rhan uchaf mewn cerddoriaeth lleisiol,
yn uwch na'r alto. Disgrifio oferyn uchaf o fewn teulu,
sacsaffon, recorder

EFFEITHIAU Effeithiau a geir trwy osod perfformwyr mewn grwpiau ar
LLEOLIAD wahan, a welir yn aml mewn cyfansoddiadau o'r 20C.
Cerddoriaeth corawl ac offerynnol yr 16C yn yr Eidal
Hefyd yn defnyddio effeithiau lle trwy osod amrywiaeth o
offerynnau a lleisiau mewn gwahanol ardaloedd o'r
Eglwys gadeiriol e.e. St Marc yn Venice

STACCATO Nodau i'w chwarae yn fyr

PEDWARAWD Darn o gerddoriaeth wedi ei gyfansoddi ar gyfer 2 fiolin,
LLINYNOL fiola a cello, neu'r offerynwyr ei hun

FFURF STROFFIG Ffurf symlaf can ble mae pob pennill o'r farddoniaeth a'r
un gerddoriaeth

ISLYWYDD 4ydd nodyn graddfa

ISFEIDON 6ed nodyn graddfa

CYFRES Casgliad o ddarnau offerynol. Dawnsiau oedd pob un o
fewn y gyfres Baroc - allemande, courante, sarabande,
gigue, bourree, gavotte a miniwet

UWCHDONYDD 2il nodyn graddfa

SYMFFONI Darn o gerddoriaeth ar gyfer y gerddorfa. Nifer o
wahanol mathau o symffoniau mewn amrywiaeth ffurf,
Ond nifer helaeth yn defnyddio'r ffurf canlynol:
Symudiad 1: ffurf sonata, weddol gyflym
Symudiad 2: araf
Symudiad 3: Scherzo, neu miniwet a thrio
Symudiad 4: Finale, yn aml mewn ffurf rondo neu sonata
Yn gyflym ac ysgafn
Roedd Haydn, Mozart a Beethoven yn cyfansoddwyr
o fri

TENOR Dyn a chyfwng lleisiol uchel. 3ydd llinell mewn darn
lleisiol, yn is na'r alto ond yn uwch na'r bas

FFURF TEIRAN Ffurf mewn tair rhan a'r rhan olaf yr un peth a'r cyntaf.
Trawsgyweirio yn yr adran ganol

THEMA AC Chwaraeir thema gyntaf (ffurf dwyran fel arfer) ac yna
AMRYWIADAU cyfres o amrywiadau ar y thema. Newid o ran amseriad,
alaw, harmoni, ac yn y blaen, ond yn perthyn i'r
gwreiddiol mewn rhyw ffordd

TIMBRE Sain gerddorol, e.e. y gwahaniaeth rhwng obo a ffliwt

CATHL Gwaith cerddorfaol mewn un symudiad sy'n disgrifio
SYMFFONIG achlysur, neu sy'n perthyn i ddarn o farddoniaeth, darlun
etc. Math o gerddoriaeth rhaglen

TONYDD Nodyn cyntaf graddfa

TREMOLO Symud cyflym iawn ar fwa offeryn llinynnau

TRIO Darn ar gyfer 3 offeryn

TUTTI Darn neu adran ble mae pawb yn chwarae. Defnyddir yn
aml o fewn concerto i ddangos fod y rhan yma ar gyfer
cerddorfa lawn ac nid ar gyfer unawdwyr

BLWS 12 BAR Dilyniant syml o gordiau a dddefnyddir yn aml mewn
cerddoriaeth pop, wedi ei selio ar gan traddodiadol y
Blws. Ailadroddir llinell gyntaf y gan gyda patrwm
cordio gwahanol, a hwn yn cael ei ateb yn 3ydd llinell.
Dyma'r dilyniant cordio:
E fwyaf (4 bar) llinell gyntaf alaw
A fwyaf (2 far)
E fwyaf (2 far) ailadroddir y linell gyntaf
B7 (1 bar)
A fwyaf (1 bar) llinell olaf yr alaw
E fwyaf (1 bar)
B7 (1 bar)

VIVACE yn fywiog

GRADDFA graddfa 6 nodyn ble mae'r bwlch rhwng pob nodyn yn ton
TON LAWN Ceir dwy graddfa:
1. A B C llonnod D llonnod F G
2. A llonnod C D E F llonnod G llonnod