Cartref / Home

Prosiect WNO

Pynciau / Subjects

Cerdd TGAU / GCSE Music

Cerdd UG/AS Music

Technoleg Cerddoriaeth AS ac A / Music Technology AS & A

Gweithgareddau'r adran / Department's activities

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Cerddoriaeth / Music

CYFANSODDWYR ENWOG


J. S. BACH
1685-1750
Teulu cerddorol; nifer o'i feibion hefyd yn gyfansoddwyr enwog.
Cerddoriaeth adnabyddus: Allweddellau, eglwys a cherddorfa.
Enwog: Fel organydd yn ei amser ei hun.
Darnau: Allweddell - 48 Preliwdiau a Ffiwg
Cerddorfa - Consierti Brandenburg
Eglwys - Dioddefaint yn ol Matthew, Offeren yn B leiaf
Organ - Toccata a Ffiwg yn D leiaf

LUDWIG VAN BEETHOVEN
1770-1827
Cerddoriaeth adnabyddus: Symffoniau, cerddoriaeth siambr, sonatau piano, concerti piano. Un opera: Fidelio.
Enwog: Fel cyfansoddwr.
Darnau: Cerddorfa: pob un o'r naw yn enwog iawn, Rhif 3, 5 a 9 yn arbennig.
Sonatau piano: Pathetique, Moonlight, Waldstein, Appassionata.
Concerto piano: Emperor
Concerto i'r Fiolin

HECTOR BERLIOZ
1803-1869
Cerddoriaeth adnabyddus: Cerddoriaeth rhaglen cerddorfaol.
Enwog: Fel arweinydd, cyfansoddwr a beirniad; enillodd nifer o wobrau cyfansoddi rhyngwladol.
Darnau: Symphonie Fantastique, cerddoriaeth rhaglen i gerddorfa
Te Deum, Requiem - gweithiau corawl mawr
Opera: The Trojans.

JOHANNES BRAHMS
1833-1869
Cerddoriaeth adnabyddus: Cerddorfaol
Enwog: Yn adnabyddus a phoblogaidd ac yn ffrindiau gyda nifer o gyfansoddwyr fel Schumann a Liszt.
Darnau: 4 symffoni
Requiem Almaeneg
Agorawd Academic Festival
Concerti: Concerto i'r Fiolin, 2 concerto i Biano.


BENJAMIN BRITTEN
1913-1976
Cerddoriaeth adnabyddus: Operau, caneuon, cerddoriaeth corawl
Enwog: Cerddor yn ifanc iawn, yn enwog fel cyfansoddwr trwy'i fywyd. Dechreuodd Gwyl enwog Aldeburgh.
Darnau: Opera: Peter Grimes, The Turn of the Screw, Billy Budd
Corawl: War Requiem

FREDERICK CHOPIN
1810-1849
Cerddoriaeth adnabyddus: Cerddoriaeth piano
Enwog: Fel perfformiwr
Darnau: Dawnsiau Pwyleg: mazurka, polonaise, walts.

AARON COPLAND
1900-1987
Cerddoriaeth adnabyddus: ballet a symffoniau
Enwog: Prif gyfansoddwr America ers y Rhyfel. Yn adnabyddus hefyd fel arweinydd, ysgrifennydd a darlithiwr.
Darnau: Ballet: Appalachian Spring, Billy the Kid
Trydydd Symffoni

ANTONIN DVORAK
1841-1904
Cerddoriaeth adnabyddus: Cerddorfaol
Enwog: Yn ffrindiau gyda Smetana a Brahms
Darnau: Symffoni Rhif 9: From the New World
Agorawd Cyngerdd Carnival
Dawnsiau Slafonig

EDWARD ELGAR
1857-1934
Cerddoriaeth adnabyddus: Corawl a cherddorfaol
Enwog: Prif gyfansoddwr o'i gyfnod
Darnau: Oratorio: Dream of Gerontius
Cerddorfaol: Amrywiadau Enigma, Symffoniau 1 a 2

GEORGE FRIDERIC HANDEL
1685-1759
Cerddoriaeth adnabyddus: Yn ei ddiwrnod, oratorio ac opera, ond erbyn hyn mae'r operau yn llai adnabyddus na'r oratorioau
Enwog: Adnabyddus iawn
Darnau: Oratorio: Meseia, Israel in Egypt, Samson, Judas Maccabeus
Cerddorfaol: Cyfres y Dwr, Cyfres Tan Gwyllt

FRANZ JOSEPH HAYDN
1732-1809
Cerddoriaeth adnabyddus: Symffoniau, cerddoriaeth siambr
Enwog: Yn adnabyddus trwy Ewrop fel cyfansoddwr
Darnau: Symffoniau: Surprise, Llundain, Cloc, Tegan
Oratorio: The Creation

FELIX MENDELSSOHN
1809-1847
Cerddoriaeth adnabyddus: Cerddorfaol
Enwog: Cydnabyddwyd fel cyfansoddwr dawnus yn ifanc. Fe wnaeth boblogeiddio J. S. Bach.
Darnau: Agorawdau Cerddorfaol: Midsummer Night's Dream, Hebrides
Symffoniau: Scotch, Italian
Oratorio: Elijah

WOLFGANG AMADEUS MOZART
1756-1791
Cerddoriaeth adnabyddus: Symffoniau, operau, sonatau piano, concerti
Enwog: Wedi teithio Ewrop fel unawdydd piano ebyn 10 mlwydd oed. Nid oedd pawb yn deall ei gerddoriaeth yn ystod ei fywyd.
Darnau: Operau: Don Giovanni, The Magic Flute, The Marriage of Figaro
Symffoni: Jupiter, G leiaf.

HENRY PURCELL
1659-1695
Cerddoriaeth adnabyddus: Cerddoriaeth eglwysig a theatr
Enwog: Cerddor pwysig yn ei fywyd ac yn gweithio yn Eglwys Gadeiriol Westminster a'r Eglwys Frenhinol. Yn un o brif cyfansoddwr Lloegr.
Darnau: Opera: Dido and Aeneas
Cerddoriaeth Llwyfan: The Fairy Queen
Nifer fawr o anthemau.

FRANZ SCHUBERT
1797-1828
Cerddoriaeth adnabyddus: Lieder, cerddoriaeth siambr, a symffoniau
Enwog: Dim yn enwog yn ystod ei fywyd ond yn barchus iawn gyda'I gyd cerddorion a chyfansoddwyr.
Darnau: Symffoniau: The Unfinished, The great C major
Cerddoriaeth Siambr: Pumawd y Brithyll
Caneuon (Lied): The Erl King, Du Bist die Ruh, Heidenroslein.


ROBERT SCHUMANN
1810-1856
Cerddoriaeth adnabyddus: Cerddoriaeth piano a Lieder
Enwog: Roedd ei gerddoriaeth piano yn adnabyddus trwy perfformiadau ei wraig Clara. Hefyd yn adnabyddus fel un o feirniaid cyntaf cerddoriaeth.
Darnau: Symffoniau: 4 yn cynnwys Rhif 1 yn Bb "Y Gwanwyn"
Cerddoriaeth piano: Scenes of Childhood, Concerto i'r piano
Cylch o ganeuon: Frauenliebe und Leben

DMITRI SHOSTAKOVICH
1906-1975
Cyfansoddiadau adnabyddus: Symffoniau
Enwog: Prif gyfansoddwr Rwseg ei genhedlaeth, er iddo cael ei feirniadu yn aml gan y llywodraeth am gyfansoddi cerddoriaeth nad oedd yn disgrifio syniadau comiwnyddol.
Darnau: 15 Symffoni, yn cynnwys Rhif 7, Leningrad
15 pedwarawd Llinynnol

JEAN SIBELIUS
1865-1957
Cyfansoddiadau adnabyddus: Cerddorfaol
Enwog: Cyfansoddwr mawr, yn enwedig yn ei wlad ei hun.
Darnau: 7 Symffoni, yn cynnwys Rhif 2, 5 a 7
Cathlau symffonig: Finlandia, Kalevala, Tapiola

IGOR STRAVINSKY
1882-1971
Cyfansoddiadau adnabyddus: Cerddoriaeth ballet, symffoniau, gweithiau corawl
Enwog: Fe'I adnabyddir bennaf am ei gerddoriaeth i'r bale
Darnau: Ballet: The Firebird, Petrushka, The Rite of Spring
Opera: The Rake's Progress
Symffoni: Symphony of Psalms

PIOTR ILICH TCHAIKOVSKY
1840-1893
Cyfansoddiadau adnabyddus: Cerddorfaol, bale, opera
Enwog: Y cyfansoddwr cyntaf o Rwsia i'w gydnabod allan o'i wlad
Darnau: Symffoniau, yn arbennig Rhif 4, 5 a 6
Cerddoriaeth Bale: Swan Lake, Sleeping Beauty, Nutcracker
Opera: Eugene Onegin
Agorawdau: Romeo a Juliet, 1812
2 concerto i'r piano, concerto i'r fiolin


RALPH VAUGHAN WILLIAMS
1872-1958
Cyfansoddiadau adnabyddus: Cerddoriaeth eglwysig, lleisiol, cerddorfaol a ffilm
Enwog: Un o brif cyfansoddwyr Lloegr
Darnau: 9 Symffoni, yn cynnwys A Sea Synphony (Rhif 1) - symffoni a lleisiau ac
Offerynnau, a A London Symphony (Rhif 2)
Opera: The Pilgrim's Progress
Eglwys: Offeren yn G leiaf
Cerddorfaol: The Wasps, Fantasia on a Theme of Thomas Tallis, Fantasia
On Greensleeves

RICHARD WAGNER
1813-1883
Cyfansoddiadau adnabyddus: Operau
Enwog: Un o brif cyfansoddwyr ei wlad er ei fod yn amhoblogaidd iawn yn ei wlad ei hun ac hefyd ar ol yr Ail Rhyfel Byd
Darnau: Operau: The Flying Dutchman, Tannhauser, Lohengrin, Tristan und Isolde,
Die Meistersinger, Parsifal.


NID YW'R RHESTR YMA YN GYFLAWN - PRIF GYFANSODDWYR A GEIR YMA OND MAE NIFER HELAETH AR GAEL.

Y MAE ANGEN I CHWI WRANDO AR YSTOD EANG O GERDDORIAETH SY'N CYNNWYS CERDDORIAETH CLASUROL A POP.


Y MAE ANGEN I CHI OSOD Y CYFANSODDWYR YN OL CYFNODAU H.Y.
DADENI, BAROC, CLASUROL, RHAMANTAIDD, MODERN.