|
Cerddoriaeth / Music
Dysgir Cerddoriaeth i bob disgybl yn Cyfnod
Allweddol 3.
Caiff y disgyblion y cyfle i ddewis Cerddoriaeth
fel pwnc opsiynol ar gyfer TGAU.
Gellir dilyn Cerddoriaeth fel cwrs Safon
Uwch Gyfrannol a chwrs Safon Uwch.
Mi fydd cyfle i ddisgyblion ddilyn cwrs Technoleg
Cerddoriaeth Safon Uwch Gyfrannol y flwyddyn nesaf.
Mae cyfle i ddisgyblion o bob blwyddyn dderbyn
gwersi offerynnol:
Llinynnau - Fiolin, Fiola, Cello, Bas Dwbl
a'r Delyn
Chwythbrennau - Ffliwt, Obo, Clarinet, Baswn a Sacsoffon
Pres - Trwmped, Trombon, Cornet, Corn Tenor,
Gitar - Electrig, Bas, Clasurol
Taro - Cit drymiau.
Mae athrawon teithiol yn dod i'r ysgol yn
wythnosol ac yn paratoi disgyblion ar gyfer arholiadau clasurol - Royal
Schools of Music - ac arholiadau cyfoes - Rock School.
Codir tal o £4 y wers, neu £40 y tymor; mae modd i ddisgyblion
dderbyn rhyw 37 o wersi yn ystod y flwyddyn academaidd.
Annogir disgyblion i fynychu gweithgareddau Sir Caerffili, Cerddorfa'r
Bedair Sir a chyrsiau cenedlaethol.
ALL-GYRSIOL
Mae'r adran yn gynnig amrywiaeth o weithgareddau
all-gyrsiol.
Cynhelir ymarferion ar gyfer grwpiau yn ystod yr awr ginio neu ar ol ysgol:
CORAU
CERDDORFA
GRWP CHWYTHBRENNAU
GRWP PRES
YSGOL ROC
CLWB SEINGLAWR
CANU
GITAR
DRYMIAU
THEORI
Cynhelir cyngherddau yn yr ysgol a thu allan,
a chynhyrchir Sioeau Cerdd ar y cyd gyda'r adran Ddrama yn rheolaidd.
Paratoir disgyblion ar gyfer Cystadlaethau Ysgol, Sirol a Chenedlaethol
yn cynnwys yr Urdd, yn offerynnol ac yn lleisiol.
Mae'r adran yn derbyn nifer o wahoddiadau gan asiantau allanol i gymryd
rhan mewn prosiectau a chyngherddau cerddorol.
Music is taught to every pupil in Key Stage
Three
The pupils are given the opportunity to choose
Music as an optional subject for GCSE.
Music can also be studied as an Advanced
Subsidiary and Advanced (A2) course.
Pupils will be given the opportunity to study
Music Technology to Advanced Subsidiary standard from next year.
Pupils from all years can receive instrumental
lessons:
Strings - Violin, Viola, Cello, Double Bass
and Harp
Woodwind - Flute, Oboe, Clarinet, Bassoon, Saxophone
Brass - Trumpet, Trombone, Cornet, Tenor Horn, Eb Horn
Guitar - Electric, Bass, Classical
Percussion - Drum kit.
Peripatetic instrumental teachers are in
school weekly, and prepare pupils for classical examinations - Royal Schools
of Music - and contemporary examinations - Rock School. A charge of £4
a lesson, or £40 a term, is raised; it is possible for a pupil to
receive 37 lessons during the academic year.
Pupils are encouraged to attend Caerphilly County activities, as well
as the Four Counties Orchestra and National courses.
EXTRA-CURRICULAR
The department offers any number of extra-curricular
activities.
Group rehearsals are held during the lunch hour or after school:
CHOIRS
ORCHESTRA
WOODWIND GROUP
BRASS GROUP
ROCK SCHOOL
KEYBOARD CLUB
SINGING
Concerts are held in school and in the local
community, and Musicals are regularly produced in association with the
Drama Department.
Pupils are prepared for School, County, National (including the Urdd)
competitions instrumentally and vocally.
The department accepts a number of invitations from outside agencies to
take part in musical projects and concerts.
CYSTADLEUAETH
CERDDOR IFANC CYFOES SIR CAERFFILI
CONTEMPORARY YOUNG MUSICIAN CAERPHILLY
Gweithgareddau'r
adran / Department's activities
Y WE
Mae'r we bellach yn un o brif adnoddau Cerddoriaeth.
Mae modd cynhyrchu cerddoriaeth personol,
casglu esiamplau byw o gerddoriaeth perfformwyr pop, yn ogystal a chasglu
gwybodaeth am gyfansoddwyr, eu cyfansoddiadau a cherddoriaeth o wahanol
gyfnodau, arddulliau a gwledydd.
Fodd bynnag, rhaid i chwi fod yn ofalus.
Yn aml cawn wybodaeth cymhleth, astrus am
bob agwedd o'r pwnc.
Wrth ddefnyddio "search engine", gofynnwch am gyfansoddwr wrth
ei enw llawn e.e. Johann Sebastian Bach ac nid Bach. Edrychwch yn ofalus
ar y gwefannau a gynigir - a ydynt yn berthnasol i'r dasg.
Mae nifer o wefannau aml-gyfrwng i'w cael
bellach, a modd i wrando ar gyngherddau byw e.e cyngerdd Madonna dros
yr Haf. Bellach trosglwyddir rhaglenni Radio'r BBC dros wefannau yn ogystal
a chyngherddau clasurol
nosweithiol ar GMN.
Medrwch "downloado" unrhyw beth,
o gerddoriaeth byw i eiriau caneuon. Braf cael y cyfle i ddefnyddio hyn,
OND MAE HYN YN ANGHYFREITHLON
i ailgynhyrchu adnoddau mewn unrhyw ffordd (edrychwch ar ddadl MP3 a chwmniau
recordio).
Ar gyfer y cwrs TGAU, awgrymaf y wefannau canlynol:
CYFFREDINOL
www.bbc.co.uk/education/music
- gwybodaeth am Radio 1,2,3,4,5, a chyfweliadau gyda pherfformwyr.
www.gmn.co.uk - cyngherddau byw clasurol,
cyfweliadau a gwybodaeth am gyfansoddwyr a pherfformwyr.
www.childrensmusic.org - gwybodaeth
eang am bob rhan o'r cwrs.
CYFANSODDWYR / CYFNODAU / ARDDULLIAU
www.classical.net - aml-gyfrwng
yn trafod cyfnodau, cyfansoddwyr clasurol yn arbennig
www.yahoo.com/Entertainment/Music/Genres/Classical
- yr un mor weithfawr i'r byd pop.
www.themusicland.co.uk - un
o wefannau gorau TGAU a Lefel A. Cyfle i chi drafod gyda disgyblion eraill
yn ogystal a gofyn cwestiynau i athrawon profiadol.
www.schoolzone.co.uk - modd
i gysylltu a gwefannau ac ysgolion eraill yn yr un sefyllfa a chi.
www.ipl.org/exhibit.muslist
- gwybodaeth eang a gwerthfawr.
www.music.indian.edu/music_resources/composer.html
- gwybodaeth am bopeth o ddiddordeb.
OFFERYNNAU
www.eyeneer.com - dyma'r wefan orau
am gerddoriaeth ac offerynnau'r Byd
www.bigskymusic.com/b_song
- cerddoriaeth Tseina
www.tinasmeker.org/orchestra.html
- cerddoriaeth Bali
www.tqjunior.thinkquest.org/5116
- y gerddorfa symffonig, aml-gyfrwng, user-friendly
CYFANSODDI
www.aol.com/soundandforum
- cyfansoddwyr yn barod a'u cymorth
www.themusicland.co.uk - syniadau
syml a dwys
www.sibelius.co.uk
www.yamaha.co.uk
CERDDORIAETH FYW
www.midi.com - pob math o gerddoriaeth
www.mp3.com - cerddoriaeth pop diweddaraf
www.songlyrics.com - geiriau miloedd
o ganeuon
CERDDORIAETH GYMREIG
www.totalwales.com - cysylltiadau
a diwylliant Cymreig o bob math
Mae pob grwp pop Cymraeg pwysig gyda gwefan hefyd. Yn aml mae modd cysylltu
a'r rhain trwy:
SEARCH ENGINE
www.askjeeves.co.uk - unrhyw
gwestiwn, atebion o fewn eiliadau
www.homeworkelephant.co.uk -
athro profiadol yr ochr arall i'r we; peidiwch a bod ofn gofyn unrhyw
beth cerddorol, neu unrhyw bwnc arall am hynny.
www.amazon.co.uk - er ei fod yn
gwmni masnachol, ceir cyfweliadau a thrafodaethau am gerddoriaeth o bob
math
www.mamma.com - un o'r goreuon,
heb amheuaeth.
Cyflwyniad yn unig yw'r ddogfen yma.
Ar y we mae miloedd o wefannau, a theitlau'r
rhain yn newid yn rheolaidd.
Cynigiwch syniadau - i'ch ffrindiau, i'ch gelynion a hyd yn oed eich athrawon.
Mi fydd gwaith pawb yn cyfoethogach o'ch ymdrech !
Peidiwch ac anghofio - mae'n RHAID i'r wybodaeth
fod yn y Gymraeg ar gyfer arholiad - SORI.
POB HWYL AR YR YMCHWIL !!!
|