Cartref / Home

Prosiect WNO

Pynciau / Subjects

Cerdd / Music

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Cerddoriaeth UG / Music AS / A

CWRS UWCH-GYFRANNOL

Rhennir y cwrs uwch-gyfrannol i dair uned:
MU1 - Gwrando a Gwerthuso
MU2 - Cyfansoddi
MU3 - Perfformio


MU1 Gwrando a Gwerthuso

Mae'r uned yn canolbwyntio ar ddwy adran astudiaeth:

1 - Cerddoriaeth offerynnol y cyfnod Baroc (1650-1750). Mae'n cynnwys ysgrifennu i'r allweddellau yn ogystal ag i offerynnau unawdol. Y prif ffynonellau yw gweithiau Purcell, Handel, Bach, Vivaldi a Corelli.
Gofynnir i ymgeiswyr ymateb i bedwar dyfyniad o gerddoriaeth offerynnol o'r Cyfnod Baroc mewn papur arholiad.

Esiamplau o gerddoriaeth y prif gyfansoddwyr
Esiamplau o gwestiynau ar gerddoriaeth offerynnol cyfnod y Baroc

2 - Gwaith Cwrs.
Gofynnir i ddisgyblion gyflwyno traethawd tua 2000 o eiriau yn amlinellu'r newidiadau a'r datblygiadau arwyddocaol a ddigwydd o fewn un agwedd ar un o dair haen o gerddoriaeth i'r llwyfan: Opera, Balet, Cerddoriaeth i'r Theatr:

(i) Opera o gyfnod Gluck i Mozart
(ii) Cerddoriaeth Balet Rwsieg o gyfnod Tchaikovsky i Stravinsky
(iii) Cerddoriaeth Americanaidd i'r theatr o gyfnod Kern i Sondheim


Esiampl o draethawd estynedig ar ddatblygiadau opera o gyfnod Gluck i Mozart
Cysylltiadau i safweoedd ar gyfer ymchwil


MU2 Cyfansoddi

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gynnig dau gyfansoddiad gwrthgyferbyniol. Dylai'r symbyliad am un o'r cyfansoddiadau adlewyrchu un o'r meysydd astudiaeth yn MU1.

Esiampl o gyfansoddiad sy'n adlewyrchu un o'r meysydd astudiaeth yn MU1
Esiampl o gyfansoddiad rhydd


MU3 Perfformio

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno perfformiad sy'n parhau am tua 8 munud o hyd, gan arddangos arddulliau gwrthgyferbyniol. Mae'n ofynnol i un o'r darnau fod yn adlewyrchiad o un o'r arddulliau a astudiwyd yn MU1

Esiamplau o rhaglenni


SAFON UWCH CERDDORIAETH

Rhaid asesu tair uned:

MU4 - Gwrando a Gwerthuso
MU5 - Cyfansoddi
MU6 - Perfformio

MU4 - Gwrando a Gwerthuso

Astudir yma Cerddoriaeth yr Ugeinfed Ganrif.
Gofynnir i ymgeiswyr ymchwilio i ardduliiau cerddorol amrywiol yng Ngherddoriaeth Gelfyddydol y Gorllewin trwy astudio gweithiau Cyfansoddwyr Gwladgarol e.e.Bartok, Argraffiadus e.e. Debussy, Clasurwyr-newydd e.e. Stravinsky a'r Mynegiannol e.e. Schoenberg.

Rhennir yr uned i ddwy rhan:

1. Papur arholiad - dirnadaeth glywedol ac arddull.
Gofynnir i ddisgyblion ymateb i ddyfyniadau cerddorol o'r ugeinfed ganrif.

2. Papur arholiad - astudiaeth hanesyddol a dadansoddiadol.
Astudir gwaith gosod - Bartok: Consierto i'r Gerddorfa ac astudiaeth o'r Consierto Grosso.

Esianplau o gerddoriaeth cyfansoddwyr yr Ugeinfed Ganrif
Esiamplau o gwestiynau ar gyfer dirnadaeth glywedol ac arddull
Esiamplau o gwestiynau arholiad ar gyfer Bartok a Cosierto Grosso


MU5 Cyfansoddi

Mae'r uned hon yn cynnwys:

Naill ai (a) Prawf 2 awr, ble mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddewis dau o'r canlynol:

· Cwblhau coral yn arddull J.S. Bach heb fod yb hwy na 12 bar o hyd.
· Cwblhau darn byr o Bedwarawd Llinynnol.
· Cwblhau darn o Driawd Sonata Baroc, heb fod yn hwy na 12 bar,
· Cwblhau cyfeiliant i gan yn arddull Schubert, neu ddarn byr i'r piano yn arddull Bartok.

Neu (b) Cwblhau dau gyfansoddiad comisiwn. Dylai cyfanswm perfformio'r ddau gyfansoddiad fod tua 8 munud o hyd.

Esiamplau o bapurau arholiad
Esiampl o gyfansoddiad o safon U2

MU6 Perfformio

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno datganiad unawdol o tua 12 munud o hyd ar unrhyw offeryn neu lais. Rhaid fod un o'r darnau detholedig rwedi ei gyfansoddi yn yr Ugeinfed ganrif, a chynhelir viva-voce ar y darn yma gan arholwr allanol.

Esiamplau o rhaglenni


Y WE

Mae'r we bellach yn un o brif adnoddau Cerddoriaeth.

Mae modd cynhyrchu cerddoriaeth personol, casglu esiamplau byw o gerddoriaeth perfformwyr pop, yn ogystal a chasglu gwybodaeth am gyfansoddwyr, eu cyfansoddiadau a cherddoriaeth o wahanol gyfnodau, arddulliau a gwledydd.

Fodd bynnag, rhaid i chwi fod yn ofalus.

Yn aml cawn wybodaeth cymhleth, astrus am bob agwedd o'r pwnc.
Wrth ddefnyddio "search engine", gofynnwch am gyfansoddwr wrth ei enw llawn e.e. Johann Sebastian Bach ac nid Bach. Edrychwch yn ofalus ar y gwefannau a gynigir - a ydynt yn berthnasol i'r dasg.

Mae nifer o wefannau aml-gyfrwng i'w cael bellach, a modd i wrando ar gyngherddau byw e.e cyngerdd Madonna dros yr Haf. Bellach trosglwyddir rhaglenni Radio'r BBC dros wefannau yn ogystal a chyngherddau clasurol
nosweithiol ar GMN.

Medrwch "downloado" unrhyw beth, o gerddoriaeth byw i eiriau caneuon. Braf cael y cyfle i ddefnyddio hyn,
OND MAE HYN YN ANGHYFREITHLON
i ailgynhyrchu adnoddau mewn unrhyw ffordd (edrychwch ar ddadl MP3 a chwmniau recordio).


Ar gyfer y cwrs TGAU, awgrymaf y wefannau canlynol:

CYFFREDINOL
www.bbc.co.uk/education/music - gwybodaeth am Radio 1,2,3,4,5, a chyfweliadau gyda pherfformwyr.
www.gmn.co.uk - cyngherddau byw clasurol, cyfweliadau a gwybodaeth am gyfansoddwyr a pherfformwyr.
www.childrensmusic.org - gwybodaeth eang am bob rhan o'r cwrs.

CYFANSODDWYR / CYFNODAU / ARDDULLIAU
www.classical.net - aml-gyfrwng yn trafod cyfnodau, cyfansoddwyr clasurol yn arbennig
www.yahoo.com/Entertainment/Music/Genres/Classical - yr un mor weithfawr i'r byd pop.
www.themusicland.co.uk - un o wefannau gorau TGAU a Lefel A. Cyfle i chi drafod gyda disgyblion eraill yn ogystal a gofyn cwestiynau i athrawon profiadol.
www.schoolzone.co.uk - modd i gysylltu a gwefannau ac ysgolion eraill yn yr un sefyllfa a chi.
www.ipl.org/exhibit.muslist - gwybodaeth eang a gwerthfawr.
www.music.indian.edu/music_resources/composer.html - gwybodaeth am bopeth o ddiddordeb.

OFFERYNNAU
www.eyeneer.com - dyma'r wefan orau am gerddoriaeth ac offerynnau'r Byd
www.bigskymusic.com/b_song - cerddoriaeth Tseina
www.tinasmeker.org/orchestra.html - cerddoriaeth Bali
www.tqjunior.thinkquest.org/5116 - y gerddorfa symffonig, aml-gyfrwng, user-friendly

CYFANSODDI
www.aol.com/soundandforum - cyfansoddwyr yn barod a'u cymorth
www.themusicland.co.uk - syniadau syml a dwys
www.sibelius.co.uk
www.yamaha.co.uk

CERDDORIAETH FYW
www.midi.com - pob math o gerddoriaeth
www.mp3.com - cerddoriaeth pop diweddaraf
www.songlyrics.com - geiriau miloedd o ganeuon

CERDDORIAETH GYMREIG
www.totalwales.com - cysylltiadau a diwylliant Cymreig o bob math

Mae pob grwp pop Cymraeg pwysig gyda gwefan hefyd. Yn aml mae modd cysylltu a'r rhain trwy:

SEARCH ENGINE
www.askjeeves.co.uk - unrhyw gwestiwn, atebion o fewn eiliadau
www.homeworkelephant.co.uk - athro profiadol yr ochr arall i'r we; peidiwch a bod ofn gofyn unrhyw beth cerddorol, neu unrhyw bwnc arall am hynny.
www.amazon.co.uk - er ei fod yn gwmni masnachol, ceir cyfweliadau a thrafodaethau am gerddoriaeth o bob math
www.mamma.com - un o'r goreuon, heb amheuaeth.

Cyflwyniad yn unig yw'r ddogfen yma.

Ar y we mae miloedd o wefannau, a theitlau'r rhain yn newid yn rheolaidd.
Cynigiwch syniadau - i'ch ffrindiau, i'ch gelynion a hyd yn oed eich athrawon.
Mi fydd gwaith pawb yn cyfoethogach o'ch ymdrech !

Peidiwch ac anghofio - mae'n RHAID i'r wybodaeth fod yn y Gymraeg ar gyfer arholiad - SORI.
POB HWYL AR YR YMCHWIL !!!